Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y WEINIDOGAETH

Ni bûm erioed yn esmwyth iawn i fod yn weinidog yn rhinwedd fy swydd. Wrth dderbyn cyhoeddiad i bregethu neu ymweled â chleifion yn eu tai, tipyn o siom ydoedd cael fy nhrin fel gweinidog yn ei swydd yn hytrach na chyfaill a chyd-ymdeithydd. Dyma oedd swyn cyfeillgarwch yr hen Archesgob. Fel y dywedodd bachgen ysgol am Archesgob arall, "Nid oedd yn ymddiddan â mi fel Archesgob wrth fachgen, ond fel un Archesgob wrth Archesgob arall." Cofiaf anfon iddo, wedi ymgom fynwesol, lyfr hynod y Prifathro John Oman, Vision and Authority, a'i ddisgrifiad tyner o wir awdurdod Cristnogol—nid y Pab yn eistedd yng nghadair Cesar, a'i lond o anffaeledigrwydd, nas honnodd St. Pedr erioed iddo'i hun, ond hen ŵr yn cyfaddef ei ffaeleddau a'i annigonolrwydd, a oedd yn ei yrru i bwyso mwy a mwy, nid ar gysondeb ei ffydd ei hun, ond ar ffyddlondeb Duw yng Nghrist ac yn Ei Ragluniaeth. Cefais lythyr oddi wrtho yn gwerthfawrogi'r llyfr a oedd yn datgan profiad henaint wedi llawer brwydr ddi-fudd."Cofiaf hefyd air y gŵr mawr Presbyteraidd hwnnw, y Prifathro John Skinner, y noson cyn ei farw, pan ddigwyddais fod yn ei dŷ, mai cysur mawr iddo ydoedd gair Crist, "Nid chwi a'm dewisodd i ond myfi a'ch dewisais chwi."

Eglurodd yr Archesgob pe dymunaswn gael urddau yr Eglwys yng Nghymru y cawswn ei groeso, ond yr oedd yn well gennyf ryddid gras i fyned i mewn ac allan o'r gwahanol gorlannau, a hynny o wirfodd calon ac nid trwy urdd na hawl. Felly o flwyddyn i flwyddyn yr agorwyd drysau—yn awr mewn capel mynyddig, bryd arall yn Eglwys y Brifysgol yn Rhydychen, dro arall yn Seiat y Crynwyr, neu mewn hen lan gwlad ym Mro Morgannwg. Gresynnais yn aml na bai modd cyfuno tipyn ar drefn y moddion gras a ddilynir gan yr enwadaudwyster ac urddas y Llyfr Gweddi Gyffredin; proffwydoliaeth a thynerwch y gair a'r Seiat syml o gyffes a thystiolaeth; ac ambell ysbaid o dawelwch y Crynwyr.

Cofiaf wahoddiad gan Reithor hynaws a diwylliedig ym Mro Morgannwg—gŵr dall a deallus iawn, gyda phrif urddau'r Prifysgolion. Teimlai fod dull ac urddas ei eglwys hynafol rywsut heb gyffwrdd â bywyd ymarferol ei blwyfolion, ac y buasai Seiat Brofiad yn gaffaeliad mawr. Trefnwyd