felly i fentro'r cyfnewidiad. Cafwyd ynghyd, mewn ystafell fechan wrth y tân, dirfeddiannwr yr ardal, gwragedd y ffermydd, a gweithwyr y rheilffyrdd, a gofynnwyd i mi "agor y mater" wedi i'r Rheithor agor trwy weddi. Tipyn yn brin oedd y profiad oherwydd dieithrwch yr arfer iddynt, ond credaf, os daw undeb yr eglwysi yn realiti yng Nghymru, y bydd angen uno traddodiad y ffydd a gyflwynwyd unwaith i'r Saint, gyda'r proffwydol i ddatgan cyfle a chyfrifoldeb dynion heddiw, a'r bugeiliol, a edy ambell dro y defaid yn y gorlan er mwyn ceisio a chadw'r un ddafad golledig y tu allan i'r gwersyll.
Nid wyf yn sicr nad cyfeiliornad dybryd ydyw'r syniad am yr Eglwys fel corfforaeth yn hytrach na chorff bywiol i ysbryd Crist, ac i bob aelod ei rin a'i ran yn y cwbl. Onid gwir ystyr aelodaeth ydyw bod "yn aelodau i'n gilydd yng Nghrist," yn hytrach nag aelodaeth ar lyfr yr enwad? Modd bynnag, dyna'r aelodaeth a bery yn y cof a'r galon, pan â penderfyniadau'r pwyllgorau a phregethau'r cyrddau mawr i ebargofiant. Cefais y fraint o eistedd dan y pen-pregethwr, John Williams Brynsiencyn, am ddeng mlynedd; ond rhaid cyfaddef, serch yr edmygedd o ddawn a huodledd y pregethwr, nad wyf yn cofio'r un frawddeg na sylw; ond nid anghofiaf ei serchogrwydd pan oeddwn yn llanc yn dychwelyd o wyliau gwlad, iddo fynnu cario fy mag. Cofiaf hefyd pan oeddwn dan y ddeddf ac yn was ffarm yn Llŷn, i mi fyned i wrando arno mewn cyfarfod pregethu yn Llithfaen fynyddig. Cyfarchais ef wedi oedfa'r prynhawn, a chymhellodd fi i ddod gydag ef i de i dŷ'r ysgolfeistr. Mynnodd hefyd i mi fyned i'r sêt fawr yn ei fraich yn oedfa'r hwyr, ac wedyn i swper, a hynny, mi gredaf, i geisio codi tipyn ar fy nghyflwr.
Cawsom ymgom hir wrth y tân. Ysgydwai ei ben wrth sôn fod Lloyd George yn cyfeillachu cymaint â "chreadur anystyriol fel W.C.", ac yn esgeuluso ei gyd-Gymry. Yr oedd wedi darbwyllo cryn dipyn erbyn hynny ynglŷn â'r rhyfel a'r gwleidyddwyr. Bûm yn sôn wrtho am foddion yr anturiaeth y bûm ynddi gyda throseddwyr, a mynegodd ddiddordeb mawr a pheth syndod wrth yr hanes.
"O'r ffordd yna y daw hi yn y diwedd," meddai, "ond nid yw'r byd yn aeddfed i beth felly eto."