“Ond sut y daw'r byd yn aeddfed," gofynnwn, "heb arweiniad crefyddwyr?"
Wrth ffarwelio yn hwyr y nos, daeth gyda mi at y drws. Meiddiais ofyn iddo: "Paham na ddywedwch chwi wrth y wlad y pethau a ddywedasoch chwi i mi heno?"
"O na," meddai, gan ysgwyd ei ben, "ond ewch ymlaen, ewch ymlaen."
Cyffyrddiadau syml a hynaws o'r fath a bair bod ei atgof yn gynnes yn fy nghalon; nid cysondeb ei ffydd nac edmygedd o'i ddoniau dihafal. Gofidiais wrth glywed bod y dorf wedi troi i'w erbyn yn ei ddyddiau olaf i edliw hen ddyddiau'r rhyfel a'r khaki, oherwydd ein bod oll "yn llithro mewn llawer o bethau." Heddwch i'w lwch a thangnefedd i'w enaid.
Ni bu neb yn bellach na mi o syniadau cyfundrefnol Eglwys Rufain, ond eto cefais gyfeillach agos ac annwyl â nifer o Babyddion; ac yn eu plith yr hoffus a'r diymhongar Monsignor Hook. Bu'n Gaplan yn y fyddin yn y Dardanelles yng nghatrawd fy mrawd, a thrwy hynny y dechreuodd y gyfeillach. Pan yn Aberystwyth awn i'w weled, a chawn groeso mawr a sgwrs rydd ar bob math ar gwestiwn. Wrth ffarwelio, gofynnwn am ei fendith, a gofynnai yntau am fy mendith innau. Yr oedd ei syniadau yn eangfrydig iawn. Soniai am dri math ar Eglwys—yr eglwys anymwybodol (y perthynai Socrates a Plotinus iddi efallai); yr eglwys ymwybodol, o'r rhai sydd yn eu proffesu eu hunain yn Gristnogion; a'r eglwys hunan-ymwybodol, a oedd yn gwybod ei bod yn Eglwys Crist. Yr oeddwn yn eithaf bodlon bod tua'r canol, ond unwaith gofynnais am ei farn ar: A ydoedd aelodaeth a gweinidogaeth mewn enwad neilltuol yn torri cysylltiadau'r Eglwys lân Gatholig? Dyma ateb yr Esgob a'r Offeiriad Catholig:
"Yr oeddwn yn y rhyfel gyda'ch brawd Stanley, a dysgais ei garu fel gwir Gristion. Cofiwch fi ato yn annwyl iawn. Gyda golwg ar eich cwestwn; pan ddengys Duw ei ewyllys i ni, pa beth gwell a allwn ei wneud ond ufuddhau iddo? Wrth ddringo mynydd cyrhaeddwn y pegwn cyntaf a chynfyddwn nad ydym eto ar y pegwn uchaf gwelwn begynnau eraill ac uwch yn y pellter. Felly y dengys Duw i ni begynnau ysbrydol, y naill yn uwch na'r llall. Y mae'r bywyd Cristnogol yn gwrs ymdrech am undeb nes-nes ag Ef nes gollwng angau ni i'w freichiau cariadlawn. Cyfrifaf fel gwir Gristion bawb a gais wybod, caru a gwasanaethu'r Arglwydd Iesu yn ol mesur y golau a'r gras a roddir iddo gan Dduw. Apelia Brawdoliaeth y Cymod ataf yn fawr; caraswn fedru gwneuthur rhywbeth i gynorthwyo'r