Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Rhagarawd.

MAE Mr. Theophilus Evans, yn ei Lyfr, a aliodd ef DRYCH Y PRIF OESOEDD, wedi anrhegu y gwerin Gymry & bèr hanes o helyntion ein cyn-dadau, yr hên Frutaniaid: ond ni wnaeth ef ond prin grybwyll am yr oesoedd a ganlynodd wedi i'r Saeson feddiannu y rhan werth- fawrocaf o'r ynys, a elwir heddyw Lloegr, a tharfu y gweddillion o'n hynafiaid i'r rhan fynyddig hon o'r deyrnas, a elwir Cymru; yr hon a feddiannasant drwy ymdrech chwerw , er gwaethaf dichellion a chryfder Seisnig, dros o gylch chwe chant o flynyddoedd.

Ni welodd, ac ni chlywodd y werin Gymreig braidd erioed air yn nghylch y tywysogion a reolasant Gymru yn y cyf-