Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rung yma, hyd y gwn i; na pha fodd y cyssylltwyd Cymru a'r rhan arall o'r deyrnas dan un reolaeth.

Mi a dybiais mai nid anaddas oedd i ryw un ffurfio sum yr hanes hon mewn byr eiriau, fel y gwelai y cyffredin Gymru pa fath amserau terfysglyd y bu ein hyn- afiaid byw ynddynt, dros hir oesoedd, dan eu tywysogion ; ac ystyried wrth hyny y rhagorfreintiau godidog yr ydym ni heddyw yn eu mwynhau: pa heddwch a diogelwch sydd yn ein hamgylchu ddydd a nos. Yn yr amseroedd gofidus hyny, ni wyddai gwr wrth gau ei amrantau i gysgu na fyddai ef a'i deulu oll yn gelan- eddau meirwon cyn y boreu, a'i holl lafur a'i dda byd wedi eu llwyr ddifa gan dân, a hyny drwy ddwylaw ei gymmydogion, ie, ond odid, ei geraint nesaf.

Y gwybodaeth o Dduw a'i ddeddfau oedd dywyll ac ansicr, crefydd Iesu Grist oedd wedi ei llygra gan ofer draddodiadau a chwedlau celwyddog pabaidd. Cyfreith-