Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

iau y wlad yn ddirym i gospi y troseddwr: wedi gwneuthur o ddyn y mawrddrwg, megys lladd ei gymmydog, neu ei golledu am ei dda, os diangai ef i ryw gyssegrle, Mynwent, Eglwys , neu Fonachlog, byddai mewn diogel noddfa, nad allai undyn gymmaint a'i waethygu am werth un o wallt ei ben; ac os yn y diwedd y rho'id rhywfarn arno, ychydig o ddirwy a fyddai yr iawn am einioes dyn! Ac am arian i'r offeiriaid y dadlwythid ef o'i holl droseddiadau, ac y cai ef sicrwydd o hawl yn nheyrnas nefoedd wedi ei holl ysgelerdra a'i ddiffeithdra.

Wrth dremio ar y pethau hyn, ni ddylem ni na chwyno na grwgnach, er y byddo i ni, ond odid, weithiau oddef rhyw driniad, yr hyn a dybiem ei fod yn orthrymder a thrais. Yr ydym oll dan amddiffynfa cyfreithiau iachus; os na chyhudda ein cydwybodau ni o ryw droseddd, nid ellir dywedyd nad ydyw ein cyflwr yn ddedwydd, wrth ei gymharu a'r oesoedd ansiriol hyny; a chan hyny, nid all neb, wrth ddwys