Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ystyried y bendithion sy'n ein hamgylchu, ond cyfaddef nad ydyw y fantol yn llaes gyda ni, os na annogwn gynddaredd ein cyfreithiau yn ein herbyn ein hunain, drwy eu troseddu. Pa faint mwy ynte y dylai yr hwn sydd ganddo gynnes a diogel feddiant o gyfoeth cymhedrol, ac iechyd, ystyrio gwerthfawrogrwydd ei ragorfreintiau? Gan hyny nid oes achos amgen i'r ddeubarth rhag offrwm eu di- olchgarwch beunyddiol i awdwr pob da- ioni, a thaer erfyn arno am barhau ei fendithion hyn, a'n cadw rhag pob gwrth- ryfel ac ymryson, a chyfnewidiadau enbyd ; ac fel hyn ymroi i fod yn ddeiliaid ffyddlon i'r llywodraeth dan yr hon yr ydym yn byw, yr hyn a fydd yn gyfran fawr o'n hymddygiad megys aelodau o Eglwys Crist.

Yr ydym yn darllen Croniclau yr hên Iuddewon gynt, yn yr hen Destament, ac yn cyfrif yr hanesion hyny drwy yr holl ddamweiniau a fynegir ynddynt, megys gwyrthiau a threfniadiau yn deilliaw yn