union o law yr Hollalluog; a diammeu eu bod felly; ond nid mwy nag yn hanes- ion cenhedloedd eraill. Y Cymro ystyriol a wêl gymmaint o'i ragluniaethol ymyraeth yn hanes ei gyn-dadau ag y mae dichon i neb weled mewn un hanes arall yn y byd. Yn wir, pan fyddwyf fi yn darllen hanes y Groegiaid, Rhufeiniaid, y Cymry, neu ryw genhedloedd eraill, yr wyfyn gweled yno gymmaint o ysgrythyr ag sydd yn yr Hên Destament, yr hwn a ysgrifenwyd gan ddysgedigion ac athrawon Iuddew- aidd, er dangos i'w cenedl yn bennaf, ac i'r byd, fod llaw goruwch anian yn trefnu eu hachosion. Ac yn ddiammeu , pan ddarllenom heddyw, hanesion y dyddiau presennol mewn papurau newyddion , ni a ganfyddwn yn eglur yr un goruchwyliaeth yn gweithredu ac yn dwyn ymlaen, megys cynt, achosion i derfynu i ddibenion pwys- fawr; a phob amser er rhyw ddaioni cyffredinol a neilltuol. Gan hyny ofer y dywedir i mi fod Duw yn gwneuthur mwy o wyrthiau yn yr hen oesoedd gynt yn mysg cenhedl yr Iuddewon , neu gen-