Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
PRYDNAWNGWAITH Cymry, &c
Byr Goffadwriaeth o'r Tywysogion y rhai a reolasant Gymru wedi i'r Saeson erlid ein hynafiaid o'r rhan werthfawrocaf o Frydain i'r rhan fynyddig yma o'r Deyrnas a elwir Cymru.
WEDI i Gadwaladr, y diweddaf dan enw Brenhin y Brutaniaid, ymsymmud i Lydaw yn Ffraingc rhag difrod gwaedlyd y Saeson, ac rhag y pla dinystriol, yr hwn yr amser hwnw oedd hefyd yn trallodi Prydain drosti . Efe oedd Dywysog o dymmer lonydd a chrefyddol ; ond yn amcanu ail ddychwelyd i Frydain gyda llu o wŷr arfog i amddiffyn ei iawn feddiannau. Efe, meddir, a rybuddiwyd drwy weledigaeth na chynnygiai ddychwelyd i Frydain,—fod llywodraeth y Brutaniaid , drwy drefn ragluniaethol , i ddiweddu :