Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fod yn rhaid iddo fyned i Rufain, a derbyn urddau cyssegredig dan ddwylaw y Pab Sergius , a chael ei osod dan drefn ac yn nifer y Mynachod . Yn gyttûn â'r alwad nefol yma efe a wnaeth felly, yn y flwyddyn 686, ar ôl teyrnasu o hono 26 o flwyddi; ac a fu farw y nRhufain yn y flwyddyn 703. Efe a gladdwyd wrth y bedd yn yr hwn y dywed y Rhufeinwyr fod yr Apostol St. Petre yn gladdedig ynddo . Bedd Cadwaladr a agorwyd yn amser y Pab Grugor, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1585, ei esgyrn a rhan o'i amdo ef oedd heb lygru ; y brethyn a gedwir etto , ac a berchir yn fawr gan y Pabyddion . Peth rhyfedd a dieithrol , fod esgyrn a llwch cnawd y llywydd hwn i'w canfod y dydd hwn , ar ol gorwedd yn gladdedig dros un cant a'r ddeg o flynyddoedd. Dywedwyd pan ddygid ei esgyrn eilwaith i Frydain yr adferid y llywodraeth yn ôl i'r Cymry ; mae hyny wedi digwydd eisoes , fal y mae nid yn unig ei esgyrn ond ei gnawd a'i waed mewn bywyd etto yn nghorph Siôr y