Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

trydydd, Brenhin Prydain fawr, yn ddilynol o gorph Harri y seithfed , yr hwn oedd ŵyr i Owain Tudur o Fôn, yr hwn oedd yn deilliaw o lwynau Brenhinoedd y Brutaniaid ; gan hyny, gorwedded esgyrn yr hên Gadwaladr yn y lle eu gosodwyd, ni wnant y gymwynas leiaf i blant yr hên Gymry.

Cadwaladr a sylfaenodd Yspytty yn Rhufain i dderbyn ac i gynnal pererinion Brutanaidd a ymwelai â'r ddinas hono : a pheth sydd drá hynod a rhyfeddol, yr adeiliad hon a'r cynhaliaeth perthynol iddi, a barhäodd felly hyd amser y diwygiad gan Luther ; y pryd y gosod- wyd i fynu amryw Ysgolion ac Yspyttai, gan y Jesuitiaid, yn amryw ddinasoedd Ewropawl, i ddwyn i fynu ieuengctyd yn y grefydd Babaidd, yn enwedig y Saeson. Yn y flwyddyn 1579 Ysgol newydd a sylfaenwyd yn Rhufain, gan y Pâb Grugor y 13, i gynnal a dysgu tri ugain o Saeson ; yr Yspytty yma o sylfaeniad Cadwaladr, a'r tiroedd a ben-