Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

nasid i'w gynhaliaeth, a benwyd i gynnal yr ysgol newydd yma gan y Pâb ; ac mae in debyg eu bod fyth yn perthyn i'r osodedigaeth hono. Cadwaladr a adaw- odd o'i ôl, yn llŷs ei gâr Alan Brenhin Llydaw, ei fâb, yr hwn oedd blentyn a elwid

IDWAL IWRCH.

Yr Alan hwnw, Brenhin Llydaw, oedd a mâb ganddo wedi tyfu i fynu a elwid Ifor, Alan a fwriadodd ei anfon ef drosodd i Frydain gydâ byddin liosog, ac iddo feddiannu llywodraeth Brydain ei hun, os gorfyddai ar y Saeson. Felly , wedi tirio o honaw, efe a ennillodd feddiant o Gymru, a rhan fawr o ymylau eraill o'r deyrnas. Ond fel y mae yn debygol, efe a darawyd âg ymgno, meddwl am draws feddiannu o honaw yr orsedd, yr hon a gyfiawn berthynai i Idwal; efe gan hyny a roddes i fynu ffrwyn y llywodraeth i Rodri Molwynog, yr hwn oedd fâb i Idwal Iwrch, ac a ymneilltuodd i Rufain, ac a ddiweddodd ei ddyddiau