Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yno'n fonach-Pa beth a ddaeth o Idwal ni wn i: yr wyf yn tueddu i gredu iddo gael ei lâdd gan Ifor, neu gan ryw un o'i ddilynwyr, am y camwedd hwn ond odid y rhoddes ef ei hun i fynu i edifeirwch a phenyd: acer llonyddu ei gydwybod yn mhellach (os gwir iddo wneuthur hyn) mae 'n addas tybied iddo gael gollyngdod a maddeuant am y cwbl gan y Pâb .

RHODRI MOLWYNOG.

Efe a ddechreuodd deyrnasu megys Tywysog ar y Cymry yn y flwyddyn 720, ac ar ranau o'r gwledydd cyffiniol. Ond Aldred, Brenhin y Saeson gorllewinol, a'i gwrthsafodd . Ymladdfa fawr gan hyny a ganlynodd , a Rhodri a enillodd y maes. Y frwydr yma a fu yn y flwyddyn 721 , ac a'i galwyd Gwaith Heilyn, oddiwrth y lle yr ymladdasant ynddo .

Ar ôl hyn Rhodri a ymladdodd mewn aml frwydr, ac yn y rhan fwyaf efe a