Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fu fuddugoliaethol . Ond y Saeson a ymgryfhasant drwy ammodi ag eraill, fel y daethant yn rhy gryfion i ymladd a hwynt. Rhodri gan hyny a ymneilltuodd i fynyddoedd Cymru, ac a roddes i fynu y rha nhono o Loegr aga oedd yn ei feddiant. Ac fel hyn y gosodwyd y sylfaen gyntaf i lywodraeth neu Dywysogaeth wahanol yn Nghymru ; o gylch y flwyddyn 750 y bu hyn, sef tri chan mlynedd wedi dyfodiad y Saeson gyntaf i'r deyrnas hon .

Yn amser y Tywysog hwn y bu farw yr hynod Awdwr Seisnig hwnw a elwid Beda, yr hwn, oddiwrth ei ddifrifwch, a enwyd y Parchedig.

Yn yr amser yma hefyd y bu farw gŵr tra ardderchog o Gymro, a elwid Tudur, mâb i un Beli, yr hwn oedd o fri mawr yn mysg y Brutaniaid .

Rhodri a deyrnasodd dros y Cymry 30 o flynyddoedd : ei lŷs penaf ef oedd yn