Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Nghaerynarfon, yr hon a enwid y pryd hyny Caer Seiont, oddiwrth enw yr afon ar fin yr hon yr oedd y ddinas yn sefyll.

Yr oedd ganddo ef hefyd lŷs yn y Penrhyn yn Llandygai : a chan ei fod ef a'i neseifiaid yn arwain bywydau cylchdeithiol, yn blaenori eu byddinoedd , yn yr amseroedd terfysgus rhei'ny, gellir tybied fod gan bob un o honynt gartrefau mewn amryw fànau ; ond y lleoedd yr oeddynt yn ymddiried fwyaf ynddynt megys amddiffynfeydd oedd mynyddoedd Eryri , sef y manau y ffoent pan droai y frwydr yn eu herbyn.

Rhodri a adawodd o'i ôl ddau fâb, sef Cynan, a gyfenwyd Tindaethwy, a Hywel .

CYNAN TINDAETHWY.

Efe a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 755, ac fel y gyrasid ei dad ef i Gymru gan y Saeson , hwy a'i can-