Offa Brenhin Mercia (y rhan derfynol Loegr ar Gymru) a wnaeth yn yr amser yma ffôs ddofn, a chlawdd , megys terfyn rhwng Cymru a Lloegr ; rhanau o honynt a welir etto dan enw Clawdd Offa .
Yn y flwyddyn 795, brwydr fawr a fu rhwng y Saeson a'r Cymry, yn yr hon y rhoed codwm ofnadwy i'n henafiaid ; eu blaenor , yr hwn a elwid Caradog, a laddwyd : efe oedd benadur tra pharchus ; mâb ydoedd i un Gwyn, fâb Collwyn , fåb Ednowen, un o 15 llwyth Gwynedd , yr hwn oedd fâb Bleddyn, fâb Bledryd , tywysog Cornwal a Dyfnaint.
Yr ymladdfa yma a fu ar forfa Rhudd- lan, ac er atgofio y dinystr a'r golled , dywedir mai ar yr achos galarus hwn y cyfansoddwyd y mesur, neu ' r gaingc gwynfanus hòno a elwir hyd heddyw Morfa Rhuddlan .
Cadell tywysog Powys a fu farw yn y teyrnasiad yma ; ac hefyd Elfod Arch-