Esgob Gwynedd . Castell Deganwy a ddistrywiwyd gan fellten .
Amrafael a dyfodd rhwng y ddau frawd, Cynan y tywysog a Hywel. Hywel, yn gyttunol a'r ddefod gyffredinol o gyd- raniad da y rhïeni rhwng y plant, a enwid Gafaeledd, a arddelwodd Ynys Fôn, megys ei gyfran : ymladdfa a ganlynodd , yn yr hon yr ennillodd Hywel y fudd- ugoliaeth, ac felly, a feddianodd yr ynys . Dwy frwydr a fu wedi hyny rhyngddynt ar yr un achos : yn ddiweddaf y codym- wyd byddin Hywel ; ac efe ei hun a ddiengodd i Ynys Fanaw.
Yn fuan ar ol hyn y bu farw y tywysog Cynan Tindaethwy, ac a adawodd o'i ôl ei unig ferch a elwid Essyllt ; Hi a briododd i ŵr anrhydeddus a elwid Merfyn Frych , yr hwn oedd yn deilliaw o lîn brenhinol Beli, brawd i Frenhin Prydain gynt.