Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y Tywysog Cynan, a gyfenwid Tin-
daethwy, gan ei fod fel y meddylir, wedi
cael ei eni a'i fagu yn y rhan hòno o ynys
Fôn a elwir Dindaethwy .
MERFYN FRYCH , AC ESSYLLT,
A ddechreuasant deyrnasu yn y flwydd-
yn 818. Ynys Fanaw oedd yn perthynu
i Merfyn, ac efe a elwid yn Frenhin arni.
Efe a'i rhoddodd hi i Hywel, ewythr ei
wraig, dan ammod iddo yntef roddi i
fynu ei hawl yn ynys Môn .
Hywel a fu farw yn y flwyddyn 825 ,
ac felly Manaw a adferwyd i Merfyn .
afu
Egbert, Brenhin y Saeson gorllewinol ,
yn drallod nid bychan i'r Cymru yn
yr amser yma ; efe a dreiddiodd i Gymru
cyn belled a mynyddoedd Eryri . O'r
diwedd ymladdfa waedlyd a fu rhyng-
ddynt yn Llanfaes yn Môn, yn y flwydd-
yn 819, yn yr hon y gwaethygwyd y
Cymry .