Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


Yr Egbert yma oedd Dywysog galluog
ac uchelfryd . Efe a ddarostyngodd yr
holl fan dywysogion Seisnig, ac a aeth
yn ben Brenhin ar yr holl deyrnas , ac a
ddiffoddodd yr amryw enwau ag a arfer-
asid ar bob talaith yn wahanol , ac a
alwodd y cyfan Eingldir, neu fel y galwn
ni heddyw yr un rhan o'r ynys Lloegr ;
ac a alwodd y bobl Einglwyr ; ond nyni
a barhausom i'w galw yn Saeson hyd
heddyw .
 
Y ddamwain yma a ddigwyddodd o
gylch 1968 o flynyddoedd ar ol dyfodiad
Brutus neu Brydain i'r ynys yma.
o flynyddoedd er pan diriasai Hengist a'i
Saeson ; ac 149 o flwyddi ar ol ymadaw-
iad Cadwaladr i Rufain.
Egbert, am iddo dybio i'r Cymru ei
ammharchu, yn cynnorthwyo y Daniaid
yn ei erbyn, a warchäodd ar dref Caer-
lleon ; neu fel y gelwir y lle heddyw,
Caer, ac a'i cymmerodd oddiar y Cymry,
ac a ddistrywiodd ddelw brês Cadwallon ;