Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


ac a orchymynodd i'r Cymry oll ymadael
â'r lle, dan boen marwolaeth, cyn pen y
chwe mis .
Merfyn, yn y flwyddyn 843, a ymladd-
odd â Berthred , Brenhin Mercia, ac efe
a laddwyd yn yr ymryson anffodus yma ;
gan adael ei lywodraeth ar ei ôl i'w fâb,

RHODRI, a gyfenwyd RHODRI
MAWR,
Fel y galwai y Cymry ef, wedi ei osod
yn y llywodraeth yn y flwyddyn 843, a
rànodd Gymru yn dair talaith , dan yr
enwau talaith Aberffraw, Dinefwr, a Ma-
thrafael ; ac a osododd ei brif lŷs yn
Aberffraw, yn Môn , ac yno y cartrefodd
ef fynychaf.

Berthred , Brenhin Mercia, a barhäodd
beunydd i flino y Cymry , ar ôl ei frwydr
lwyddiannus yn erbyn Merfyn : efe a
ddaeth i mewn i Gymru gyda byddin
nerthol, ac a aeth rhagddo cyn belled a