Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Môn, gan wneuthur erchyll anrhaith :
y Cymry a'i gwrthwynebodd ef, fel y bu
-raid iddo ddychwelyd adref wedi ei ofer
ymgais.
Gŵr mawr hynod ac ardderchog, a
elwid Cynan , o Nant Nifer, a fu farw yn
y teyrnasiad yma ; efe oedd yn flaenor
byddinol gwrol a chalonog , gan iddo
ennill llawer o frwydrau hynod yn erbyn
y Saeson.
Yn y teyrnasiad hwn hefyd yr ym-
ddanghosodd yn Nghymru ddau ddysg-
awdwr enwog ; un a gyfenwid Scotus , y
Hlall Menevensis : y cyntaf a anwyd yn
Nhŷ Ddewi, ac a ddygwyd i fynu yn y
brif ysgol hòno ; ac er ennill mwy o
ddysg efe a ymdeithiodd i Athens ; ar ei
ddychweliad, Aelfryd mawr, Brenhin
Lloegr, a anfonodd am, dano , ac a'i
gosododd megys proffeswr dysgeidiaeth
cyntaf yn Rhydychen, yr hon ysgol a
sylfaenwyd gyntaf gan yr Aelfryd hwn .
A daliwn sulw, mai Cymro a roes y