Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


cychwynfa cyntaf i'r Ysgol odidog ac
anrhydeddus yma, yr hon heddyw sydd
bennaf ar holl ysgolion y byd.
Yn 873 y Daniaid, wedi eu herlid a'u
gyru o Frydain gan Aelfryd, a wnaethant
esgynfa ar Gymru, ac a diriasant yn Môn ;
Rhodri a ymladdodd â hwynt ddwy
waith ; yn gyntaf yn y lle a elwir Bengole,
ac yn Mynegid, y ddau le yn Môn, ac a'u
gorchfygodd.
Yn 876 y Daniaid a diriasant eilwaith
yn Môn, Rhodri a'u cyfarfu , a brwydr
waedlyd a fu, yn yr hon y syrthiodd
Rhodri y'nghyd a'i frawd, medd rhai,
eraill mai ei fâb Gwyriaid a syrthiodd
gydag ef. Y frwydr hon a alwyd Gwaith
Diwsul yn Môn, gan mai ar y diwrnod
hwnw yr ymladdasant .
Y Rhodri hwn a adawodd, o'i wraig
Angharad , dri mâb, sef Anarawd , Cadell,
a Merfyn : rhwng y rhai hyn y rhànodd
ef Dywysogaeth Cymru ; sef Gwynedd i