Anarawd , Deheubarth i Gadell, a Phowys
i Ferfyn. Ac fel hyn, wrth wanychu y
llywodraeth, y daeth ymryson diddiben,
a thywallt gwaed rhwng nifer o dywysog-
ion gweiniaid ac anghenus , yr hyn yn
ddiammeu a fu ' n achos i roddi mantais
i'n gelynion i fathru ein hynafiaid dan eu
traed , a'u caethiwo hwynt yn y diwedd .
Y tri thywysog yma, a grewyd yn y
dull yma gan Rodri, a enwwyd, y tri
Thywysog Coronog, gan y gwisgai bob
un o honynt ar ei Helm, neu ei Bennor,
Goron o aur, yr hon oedd Bendalaith
lydan wedi ei chyfylchu i fynu , a meini
gwerthfawr wedi eu gosod ynddi, yr hon
a elwid Talaith .
I bob un o'r tywysogion yma yr adeil-
adodd Rhodri lŷs brenhinol : i Dywysog
Gwynedd un yn Aberffraw : i Dywysog
Deheubarth yn Ninefwr ; ac i Dywysog
Powys yn Mathrafael . Efe yn ei Ewyllys
a benodd i Dywysog Gwynedd fod yn
benaf, ac osos digwyddai ymrafael fod