Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

rhwng rhyw ddau, i'r trydydd fod yn
gyflafareddwr i uniawni rhyngddynt.
Pa mor anwybodus oedd ef y'nghylch
breuder ac anwadalwch tymmer ddynol,
ac o dreigliadau pethau yn y byd, pan
y meddyliai y safai yn ddiysgog y fath
osodfa dros un oes yn ddi ymrafael : ac
yn wir, buan yr ymddangosodd oferwch
ei amcan : oblegyd, pan gyntaf y cymer-
asant feddiant bob un yn ei lywodraeth,
Cadell a ruthrodd ar dywysogaeth Mer-
fyn, seftir Powys ; ac ymrysonau gwaed-
lyd a ganlynasant o amser bwygilydd ,
y rhai ni ddarfuant nes o'r diwedd draws
gipio yr holl dywysogaeth a'i llyngcu yn
llwyr gan y Saeson .
ANARAWD .
1
Bradfwriadau, a therfysgau oddifewnol ,
o achos anghymwys raniad Rhodri o'r
dywysogaeth, a wanhäodd y llywodraeth
drwy ymrysonau a thrwy dywallt gwaed :
Ewyllys diweddaf y tâd a ddiystyrwyd