Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ac a ddirymwyd, a phob tywysog a'i
tybiodd ei hun yn gwbl rydd yn ei dalaith
a'i lywodraeth ei hûn, heb achos iddo.
ymgynghori ac ufuddhau i gyngor a ded-
fryd arall . Ac felly yn lle cyd uno i gadw
draw y gelyn, a dilyn diwydrwydd a
moesoldeb a chrefydd , erlid , llurgunio a
distrywio eu gilydd a wnaethant dros hir
oesoedd ; hyn yn y diwedd a ysodd eu
rheolaeth ac a ddistrywiodd eu llywodr-
aeth, a rhagluniaeth nefol a'i penodd hi
yn olaf ar eu gelynion chwerwaf, cenhedl-
aeth, fel y dywed Gildas am dani , " Cás
gan Dduw a dyn." A dyma ei hiliogaeth
wedi ei pherchenogi, a mwynhau medd-
iannau ein cyndadau er's tros 1300 o
flynyddoedd . Hwynt hwy, fel yr hên
Israeliaid gynt, yn distrywio ac yn ymlid
ymaith y saith genedl o wlâd Canaan, a
ddistrywiasant, ac a ymlidiasant ymaith,
drwy genad yr un Bôd rhagluniaethol, y
gweddill o'n hynafiaid i'r wlâd fynyddig
hon . Gwïalen Duw oedd hon arnynt,
am eu herchyll gamweddau a'u trosedd-
iadau.