Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond pan symudodd i Lerpwl, y mae yr ardystiad a gymerodd gartref, ar ol ei ddyfodiad i Lerpwl, yn myned ar goll, y mae y Llew yn peidio a bod yn llwyrymwrthodwr. Dyma gyfwng y carwn ddweyd gair wrth fyned heibio. Pe y buasai yma Deml y Plant y pryd hynny, dichon y buasai ardystiad yr hogyn bach o Dreffynnon yn aros,—am fod hogiau a hogenod, ar ol tyfu i dipyn o faint, yn credu (yn enwedig os byddant mewn "office") eu bod yn ormod i fyned i'r Band of Hope, pryd y mae Teml y Plant yn goddef rhai hyn, heblaw ei bod yn fwy atyniadol i'r dosbarth hwnnw. Fodd bynnag, dyna hanes Mr. Wynne o 1863 i 1872,—"nid oedd yn llwyrymwrthodwr. "Yn 1872 y mae yn ymuno a chyfrinfa Seisnig o'r enw "Star of Promise."·Ni fu yno ond am ychydig o wythnosau na ddechreuodd anesmwytho, gan feddwl y gallasai gychwyn achos cyffelyb ymysg y Cymry. Yn y man y mae ef ac un arall o'r enw Eben Jones yn cychwyn y gyfrinfa gyntaf ymysg Cymry Lerpwl, yr hon a gedwid yng nghapel Cymraeg Chatham Street. "Ancient Briton" ei gelwid hi y pryd hynny, a dyna ei henw heddyw, er mai teg yw dweyd hefyd, er mai hon ydoedd y gyntaf ymhlith y Cymry, mai Saesones oedd hi, ac mai Cyfrinfa y Cambrian, Bootle, oedd y Gymraes gyntaf. Ar ol agor yr Ancient Briton " cododd tyrfa fawr eu pennau wedi hynny, yr hen "Brince Llewelyn," yn Pall Mall, " Hiraethog, yn Birkenhead, "Gomer" a,Caradog;" "Celtic," "Dewi Sant," "Goronwy," Islwyn," "Glyn Dwr," "Gwalia," &c. Gall y rhai hyn oll a llawer yn ychwaneg ddweyd heddyw am Mr. Llew Wynne mai "efe yw ein tad ni oll." Erbyn hyn y mae y Temlau hyn yn allu pur gryf yn y dref a'i hamgylchoedd; a phob tri mis ceir cyfarfod o'r Dosbarth Demlau; a'r tair blynedd diweddaf Llew Wynne yw y D. B. Demlydd (Dosbarth Brif Demlydd). Y mae hefyd yn swyddog yn yr Uwch Deml. Y mae yn ddirprwywr hefyd i'r "Wir Deilwng Uwch Deml." Yr oeddym yn son ar y dechreu nad oedd wedi graddio; pe y gwelet yr oll lythrennau sydd ganddo, ti a ryfeddet, ac nid rhai rhad ydynt ychwaith. Hir oes iddo i lafurio gyda Themlyddiaeth Dda, a chyda'r Eisteddfodau y mae wedi gwneyd cymaint i sicrhau eu llwyddiant.

Hugh Jones (Trisant)

Y mae Mr. Hugh Jones (Trisant) yn debyg mewn un peth, beth bynnag, i luaws o wyr da ereill y dref yma—ganwyd ef yn sir Fon. Mab i amaethwr o blwy Llantrisant ydyw. Derbyniodd ei foreuol addysg yn ysgol y plwyf hwnnw; ac aeth oddiyno i ysgol Frytanaidd Llannerchymedd, ac oddiyno drachefn i Gaergybi, lle yr arosodd am tua dwy flynedd. Ac yn yr adeg yna y mae yn gadael ei wlad ac yn myned i wlad bell, sef Lerpwl, ond nid i fyw yn afradlawn, fel y mae llawer, er ein gofid, yn y blynyddau hyn, unwaith y cefnant ar dy eu tad a'u mam a'r hen flaenoriaid. Ond, o drugaredd, nid dyna y rheol; y mae yma gannoedd o bobl ieuainc o Gymru, yn feibion a merched, yn cadw i fyny anrhydedd, nid yn unig eu rhieni, a'r hen flaenoriaid, ond eu gwlad yn gyffredinol. Un o'r rhai hynny ydyw Trisant. Daeth yma yn hogyn ieuanc i ganol hudoliaethau a themtasiynau yr hen dref hon, ac yn nerth ei Dduw, a Duw eu dadau, fe'u gwrthsafodd oll. Nid hir iawn y bu yma fel gwas ychwaith, ond fe lwyddodd i ddechreu masnachu ar ei gyfrifoldeb ei hun; adwaenid ei fasnach am flynyddau o dan yr enw "Hugh Jones & Co., Contractors." Yn ystod yr adeg yna fe'i hetholwyd, gyda mwyafrif mawr, yn aelod o'r Bwrdd Lleol, adran Walton. Bu yn aelod am dair blynedd, ac yn ystod. y tair hynny llanwodd dair o wahanol. gadeiriau,— cadlair y Pwyllgor Gweithiol, y Pwyllgor Gwelliantol, ac wedi hynny gadair y Bwrdd; a chan iddo gael y fantais hon yr oedd mewn cyfle rhagorol i wthio rhyw welliantau a welai ef yn eisieu i'r golwg, a llwyddodd yn hyn i fesur helaeth iawn. Caiff yr anrhydedd heddyw o fod yn gychwynnydd i luaws o welliantau Gwelliantau perthynol i dai gweithwyr. ydynt ag y mae yn amheus iawn a, fuasent ar gael heddyw oni bai am weithgarwch di-ildio H. Jones drostynt. Yr ydym yn falch iawn o wyr fel Mr. Hugh Jones. Cynrychiola ddosbarth o Gymry sydd a llaw yn nadblygiad a llywodraethiad un o borthladdoedd pwysica.f y byd. Cynrychiola ddull y gwir Gymro, —cred mai ei grefydd a'i ddirwest yw yr esboniad ar lwyddiant dyn; a fod mawredd tref a chenedl wedi eu sylfaenu ar foesoldeb pur ac ar -egni dros yr hyn sydd wir a. iawn. Mae'r Cymro yn a.ml yn fardd da, ond yn sefyll gormod o'r neilldu