Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

athronyddol ac eto profiadol, yn taro'r Salmau i'r dim. Y mae cyfoeth ei feddwl,—y grymusder a'r teimlad,—i'w weled yn yr esboniad ar y Salmau a gydysgrifennodd gyda'r ysgolhaig Hebreig gwych hwnnw, y Parch. R. E. Morris, o Wrecsam.

Yn ystod yr hanner canrif a dreuliodd, ni fu yr oll yn ddigwmwl; na, gall ef ddweyd, —"Myfi yw y gŵr a welodd flinder." Gwyr fel llawer ereill beth yw crymu dan y groes, a chroes lled drom oedd colli ei anwyl briod tra nad oedd y plant ond ieuainc; ond cafodd nerth i ddwyn y groes honno, yn nerth ei serch at ei ddau fab. Ac hwyrach y fod y golled hon iddo ef, yn ennill i ereill; yn awr gall ef gydym deimlo âg ereill, a bod yn foddion i weinyddu llawer o gysur iddynt,—y mae digon o waìth yn y cyfeiriad yna y dref hon. A hawdd ir rhai sydd wedi cael blas ar ei feddyliau dwys dyner weled gwirionedd geiriau y bardd Seisnig am fedd ylwyr o'i fath,— "They learn in sorrow what they teach in song."

Llew Wynne

Un o wyr mwyaf talentog a mwyaf adnabyddus Lerpwl yw Llew Wynne. Ganwyd ef yn Nhreffynnon. Robert a Harriet Wynne oedd enwau ei rieni; diangenrhaid, mae yn debyg, yw dweyd mai chwaer iddo ef ydoedd y ddiweddar gantores fwyn Edith Wynne, ynghyd a Kate Wynne. Y mae yntau hefyd yn gerddor o'r fath oreu; ond nid fel cerddor yr hynododd ef ei hunan. Y mae iddo yntau ei hynodion fel y ceisir dangos wrth fyned ymlaen. Fe dderbyniodd addysg yn Nhreffynnon yn "Cole's School". Pan ofynwyd iddo a enillodd efe "radd," ei ateb ydoedd mai tyfu yn raddol a wnaeth.

Fodd bynnag, y mae yn amlwg ei fod. wedi dysgu llawer mewn ychydig iawn o amser, oblegid y mae yn gadael ei gartref mor fore ag 1863, gan droi tua Lerpwl, yn cael lle fel hogyn mewn swyddfa llongfeddianwyr, ac yno y mae o hynny hyd yn awr, ac y mae wedi dringo mor uchel ac y mae modd iddo,—y mae yn brif swyddog. Pe yn gwneyd nemawr heblaw edrych ar ol ei orchwyl hwn, buasai hynny yn golygu cryn lawer, am fod y cwmni hwn yn cario masnach eang iawn ymlaen, gyda'u hugeiniau o longau; a chyda llaw, cryn sirioldeb ydyw gweled Cymro wedi dringo mor uchel i — ymddiriedaeth cwmni mor fawr a Pappayani and Co, a'r rhai hynny yn Roegwyr.

Ond son yr oeddwn am dano fel gweithiwr y tu allan i'w fusnes ei hun. Y mae enw Llew Wynne yn adnabyddus i bob Cymro, a dweyd y lleiaf; a gallwn ychwanegu ei fod yn adnabyddus yn yr holl fyd eisteddfodol. Efe ydoedd ysgrifennydd eisteddfod lwyddiannus Lerpwl yn 1884, ac efe hefyd ydyw ysgrifennydd un 1900; a barnu wrth arwyddion yr amserau, fe yrr hon un 1884 i'r cysgod, gan fod yr awyrgylch erbyn hyn yn hollol glir.

Ond, ped ysgrifennid cyfrolau am Mr. Llew. Wynne a gadael ei berthynas â Themlyddiaeth Dda allan, ni fyddai yr oll amgen na chorff heb ysbryd ynddo. Pell ydwyf, wrth ddweyd hynny, o fod yn. anywwybyddu llafur Mr. Wynne ym myd yr eisteddfodau; ond hyn a ddwedaf, mai yn yr hyn a wnaeth, ac y mae yn ei wneyd gyda'r achos da hwn y tynnodd efe ni fel cenedl i'w ddyled. Nis gallaf wneyd yn well na rhoddi ychydig o'i hanes ynglyn â Themlyddiaeth. Gall hynny fod er dyddordeb i Demlwyr Da, beth bynnag. Pan yn hogyn gartref fe ymunodd â'r Gobeithlu, yr hon oedd ar y pryd o dan ofal y Parch. John Jones, gweinidog gyda'r Saeson y pryd hynny.