Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ereill yn darlithio ar dduwinyddiaeth. Yn y flwyddyn 1890 ydoedd hon.

Yr wyf wedi enwi rha.i o'r dynion enwog y bu Mr. Hughes yn derbyn addysg ganddynt; -ond gwn am ddau neu dri ereill na fu eu dylanwad arno ronyn llai. I'w athraw yn yr Ysgol Sul y mae yn priodoli y gorchwyl o ddeffro ei feddwl gyntaf, ac nid oedd yr athraw hwnnw yn neb arall na Mr. William Abraham," Mabon" yr Eisteddfodau, a chynrychiolwr Cwm Rhondda yn Senedd Prydain Fawr ac ymhobma;n arall. A'r disglaer Edward Mathews a ddeffrodd y pregeth wr ynddo. Yr hybarch D. Howell, Abertawe, a'i bedyddiodd, ac yn eglwys Cwmafon, gan yr un gwr, y derbyniodd e i Gymundeb cyntaf. Dylaswn ddweyd i'w rieni symud yn fuan ar ol ei eni ef i Gwm­afon. Yr un gwr hefyd a'i holodd fel ymgeisydd am y weinidogaeth, ac efe hefyd a'i derbyniodd i'r Cyfarfod Misol. Cafodd gychwyniad da, felly, oherwydd nis gallasai neb gaeI athrawon gwell. Ond rhaid cofio fod defnyddiau ynddo yntau, a hynny a welsant hwy. Yr oeddynt wedi canfod gwythien yn gorwedd yn yr "hogyn penddu," a defnyddiasant bob moddion i'w gweithio, ac ni fu eu llafur yn ofer. "Diolch yn fawr iddynt," meddem ninnau yn Lerpwl yn awr, tra yn medi o ffrwyth eu llafur. Heblaw hyn oll, fe gafodd Mrs. Hughes un o ragorolion y ddaear yn fam iddo. Diolchwn am ysgolion dyddiol a Sabbothol ac athrawon da; ond diolchwn fwy am famau da. I famau duwiol a da y mae Cymru yn ddyledus am y cewri a gafodd i'n hamddiffyn ac i'n goleuo. Bendith fwyaf Duw i wlad yw mamau da. Nid wyf yn meddwl imi ddod ar draws yr un dyn erioed yn ca.rio meddwl mor uchel o'i fam a. Mr. Hughes. Hwyrach mai nid pawb a welodd y gerdd-goffa, dyner a wnaeth iddi, lle y ceir torf o feddyliau tarawiadol, megis,

"Pwy wada'r Duwdod, gafodd fam
Rinweddol, dduwiol, er pob cam."

Dedwydd yw'r dynion sy'n gallu edrych yn ol ar eu mham a'r Ysgol Sul, a dweyd,—"I chwi yr y'm ni yn ddyledus am yr hyn ydym." Erbyn hyn y mae Mr. Hughes yn weinidog er ys tair blynedd ar hugain, a threuliodd tua deg o'r rhai hynny yma. Nid yw ond megis doe gennyf feddwl am ei ymddangosiad cyntaf yn ein plith. Daeth atom yn weithiwr caled; yr un ydyw eto. Y mae ol llafur y meddyliwr dwys ar ei bregethau; y mae ol ymdrech galed a meddyliau mawrion yn ei ysgrifeniadau. Y mae ynddo gyfuniad o'r gweithiwr caled ac o'r meddyliwr galluog, ac nid bob amser y ceir y gallu a'r ymdrech yn yr un un. Y mae ei eglwys yn gymorth iddo feddwl a gweithio; y mae iddi enw fel un o'r rhai mwyaf goleuedig yn y dref. Ac wedi prawf o ddeng mlynedd mae'n amlwg fod y bugail a'r praidd yn cyd-daro yn rhagorol. Y mae'r bugail, fel ei eglwys, yn cymeryd dyddordeb mawr hefyd yn yr achos dirwestol, ac y mae llwyddiant yr achos dirwestol i'w briodoli i raddau pell i'r ffaith fod ein dynion blaenaf yn cymeryd dyddordeb ynddo. Llwyrymwrthodwr cryf ydyw Mr. Hnghes, a. gweithiwr cadarn dros yr egwyddorion a gred. Y mae wedi gwneyd llawer i esbonio dau adroddiad y Ddirprwyaeth Frenhinol ar werthiant diodydd meddwol,—adroddiad y mwyafrif ac adroddiad y lleiafrif,—yn Lerpwl. Ni raid dweyd iddo weithio a'i holl egni er mwyn yr Ysgol Sul. Gwyr llawer cynulleidfa. am ei allu i esbonio y Salmau,—y mae ei ddull ysgolheigaidd ac eto yn farddonol,