Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amlycaf. Ond gwyr dyngarwyr Lerpwl am ei heffeithiau araf hefyd, gwelsant hi yn graddol ddifwyno cymeriad ac yn amharu gwaith aml fachgen ieuanc o Gymro gobeithiol. Clywais ddweyd lawer gwaith mai Cymry yw pobl oreu Lerpwl ac mai Cymry yw ei phobl waethaf. Ymysg ei harweinwyr mewn daioni,—yn noddwyr ysbytai ac ysgolion, moddion gras a chyfarfodydd llenyddol, a phob sefydliad dyngarol,—y mae Cymry yn amlwg oherwydd eu hymdrech, eu hynni, a'u haelioni. Ond os syrth Cymro, syrth yn isel iawn. Os cyll ei gariad a'i barch at grefydd a dirwest ei wlad, ofna ei gyfeillion ei weled yn suddo yn ddwfn iawn i amharch a thylodi a llygredigaeth. A dengys profiad maith mai nid ofer yw eu hofnau.

Parch John Hughes

Y mae llawer blwyddyn bellach er pan fu Methodistiaid Lerpwl heb eu "John Hughes," yn neillduol felly eglwys Fitzclarence Street. dull cyffredin gan bobl Lerpwl wrth siarad am y tri wyr hyn, ydyw,—"John Hughes y Mount," "Dr. Hughes," a "John Hughes, M.A." Y tri hyn a roddasant anrhydedd ar eu henwad pan oedd y ddau ereill yn fyw. Nid oes ond un o'r tri yn aros.

Ganwyd y Parch. J. Hughes, M.A., yn Heol y Morwyr, o fewn ychydig iawn o ffordd i orsaf y G. W. R. yn Abertawe, hanner can mlynedd i eleni. Dafydd ac Elizabeth Hughes oedd enwau ei rieni. Gof oedd ei dad wrth ei alwedigaeth, a gweithiwr caled iawn ydoedd; ac yn hyn o beth fe ddisgynnodd ei fantell ar ei fab,—gweithiwr caled yw Mr. Hughes. Yn ysgol elfennol Cwmafon y derbyniodd ei addysg gyntaf, yr hon y pryd hynny oedd o dan ofal yr ysgolfeistr gwych Mr. W. Davies. Er fod yr athraw yn un lled lym pan fyddai angen, yr oedd John Hughes yn hoff iawn ohono, ac yntau yn hoff iawn o'r bechgenyn penddu, fel ei galwai; a gwyr pawb am athraw a disgybl fod holfder y naill at y Hall yn anhebgorol i gyfrannu a derbyn addysg. Bu Mr. Hughes wrth draed aml i Gamaliel ym moreu ei oes, a mawr yw ei barch iddynt oll, a theimla ei bun yn ddyledus iawn iddynt. Un ohonynt ydoedd Mr. Williams, mab yr hybarch William Williams, Abertawe, ei athraw pan yn yr ysgol Normalaidd, Abertawe; y mae ei glod yn uchel iawn i'r gwr hwn fel athraw. Ei orchwyl cyntaf ef fyddai torri ei ddisgyblion i mewn yn weithwyr dewr. Tua blwyddyn a hanner a fu John Hughes yn yr ysgol hon, sef rhan o 1869-71. Yr oedd wedi dechreu pregethu erbyn hyn. Ar ddiwedd ei yrfa yn yr ysgol y mae yn symud i Athrofa Trefecca, a chan iddo fod yn hynod o lwyddiannus yn ystod ei flwyddyn a hanner yn yr Ysgol Normalaidd, mewn amrywiol ganghennau addysgawl, yr oedd, erbyn myned i'r coleg, yn abl i ddilyn y . dosbarthiadau hynaf, ac ar ddiwedd ei dymor yno, drachefn, daeth allan ar ben y rhestr bron yn yr oll o'r dosbarthiadau, ac iddo ef y dyfarnwyd y wobr gyntaf mewn duwinyddiaeth.

Yn y flwyddyn 1873 aeth i Brifysgol Glasgow,—ac efe erbyn hyn yn rhyw dair ar hugain oed. Yno graddiodd yn M.A., ac yno yr ydoedd pan yr ymgymerodd a gofal eglwysi Hermon a Dowlais. Fel y gallesid disgwyl, tra yn Glasgow hynododd ei hunan yn fawr fel dysgwr, ac enillodd amryw wobrau. Pum mlynedd yr arosodd yn Hermon a Dowlais, a phump o rai dedwydd iawn fuont iddo. Symud­ odd oddiyno i Fachynlleth, lle yr arosodd am ddeng mlynedd; ac ar ddiwedd y rhai hynny y mae yn myned am dymor i ·Leipzig i wrando ar yr enwog Luthardt