Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dr James Edwards

ANWYD Dr. James Edwards yn y Bala, Gorffennaf, 1855, yn fab ieuengaf Dr. Lewis Edwards, a brawd ieuengaf Dr. Thomas Charles Edwards,—dau olynydd eu gilydd fel prif athrawon Coleg y Bala. Yr oedd ei fam yn wyres i Thomas Charles o'r Bala, cychwynnydd yr Ysgol Sul yng Nghymru, ac un o brif sylfaenwyr y Feibl Gymdeithas. Nid bob dydd y deuir o hyd i ddyn wedi ei amgylchynu a chymaint o hynodrwydd a DR James Edwards,—hynodrwydd e i rieni, a mangre ei enedigaeth, y Bala, Athen Cymru. Yn ysgol ramadegol hynod y Bala y derbyniodd ei addysg cyntaf, ac eithrio ysgol yr aelwyd. Wedi hynny daeth i'r Liverpool Institute, ac yma y bu hyd nes y penodwyd ei Thomas frawd, Charles Edwards, yn yn athraw yn Aberystwyth. Yna symudodd i Aberystwyth, lle yr aroshodd am rai blynyddau. Wedi hynny, symudodd i Ysbyty St. Bartholomew, yn Llundain, ac yno y bu yn astudio hyd nes ei graddiwyd yn feddyg cymhwys. Yna dychwelodd i Lerpwl, ac ymsefydlodd yn Anfield, gan ddilyn ei alwedigaeth feddygawl, ac y mae er hynny tua deunaw mlynedd. O hynny hyd yn awr y mae wedi llanw swyddau pwysig iawn yn y dref, ac yn dal i'w llanw. O'r deunaw mlynedd, bu am naw mlynedd yn aelod o'r Bwrdd Ysgol yn Walton, ac nid aelod marw ydoedd; ni fuasai pobl Lerpwl yn cadw aelod diwaith am naw mlynedd ar y Bwrdd Ysgol. Y mae yn feddyg hefyd i amryw o'r Cwmnïau Yswiriol, megis y "Prudential" a'r "Abstainers and General." Hefyd y mae yn aelod o Bwyllgor y Genhadaetn Drefol, ac yn swyddog meddygol iddo. Yn ychwanegol at hyn y mae yn swyddog eglwysig yn eglwys Gymreig Anfield Road. Wrth son am hynodrwydd ei deulu, y mae un, a dweyd y lleiaf, hynodrwydd mawr yn perthyn iddo ef ei hun fel meddyg,—y mae yn llwyrymwrthodwr, ac wedi bod ar hyd ei oes felly. Gall yntau ddweyd ar y mater hwn, fel y clywais ei frawd hynaf yn dweyd wrth areithio ar ddirwest. Yr wyf, "ebai, " yn falch fy mod i yn gryf mewn un peth,—a hynny fel dirwestwr." Mae Dr. James Edwards yn falch ei fod yn ddirwestwr. Y mae ei briod hefyd fel y graig yn y mat­er h wn. Credaf mai yn gynil iawn, mewn a hynny achosion eithriadol, y gorchymyn Dr. Edwards wirodydd fel meddyginiaeth. Carem yn fawr weled y dydd na chaffo y diodydd hyn eu defnyddio ond yn ol cynghor meddygon profiadol a galluog a llwyddiannus fel Dr. James Edwards, a hyderwn y bydd i'n meddygon ymdrechu i argyhoeddi eu cleifion mai meddyginiaeth wael iawn ydyw y gwirodydd meddwol.

Sylwir fod y rhan fwyaf o Gymry Lerpwl a enwir yn y gyfres hon yn ddirwestwyr. Nid yw'n ormod dweyd fod y mwyafrif o Gymry ymdrechgar, arweiniol ymhob tref yn ddirwestwyr. Y mae hynny'n wir yn enwedig am Lerpwl. Yno y mae'r ddiod feddwol yn gwneyd anrhaith dyddiol. Yno, lle y mae rhai o bob cenedl wedi cydgasglu, lle mae nwydau heb ffrwyn yn ddigon aml, gwelir ei heffeithiau uniongyrchol ar eu