Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae y bachgen penddu yna sydd yn y sedd ganu yn tybied ei hunan yn glyfar iawn yn medru ysgrifenu yn yr odfa; fe fuasai yn fwy clefar pe buasai yn edrych arna i ac yn gwrando." Gwenodd y gynulleidfa a gwyrodd y bachgen ei ben hyd lawr gan gywilydd. Penderfynodd y gŵr ieuanc fyned i'r festri ar y diwedd i amddiffyn ei gam, ond croesawyd ef fel yr elai trwy y drws gan y gweinidog a'r ymadrodd, "Ie, dyma fo y bachgen smart hwnnw." Ac meddai hen flaenor o ymddangosiad stoicaidd ac mewn cydymdeimlad â'r gweinidog, Gwnaethoch yn iawn argyhoeddi y sort yma, y mae llawer gormod o hyfdra yn cael ei ddangos yn y gwasanaeth." Ar hyn aeth y gŵr ieuanc allan gan ddweyd, Boreu da welwch chwi mo hono i yma mwy i'ch blino." Cerddodd adref gyda'r argyhoeddiad nad oedd cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn y llys crefyddol. Aeth ymaith heb ganfod ond y llinell salaf yng nghymeriad y gweinidog a'r swyddog. Penderfynodd modd bynnag nad elai i gapel mwy, hwyrach yr elai weithiau i gapel Saesneg er mwyn gallu dweyd ei fod yn myned i Ie o addoliad yn achlysurol. Y dydd Sadwrn canlynol derbyniodd air oddiwrth Mr. Hughes yn ei wahodd i w dy i swpera y noswaith honno. Aeth gyda theimladau cymysglyd. Derbyniodd bob caredigrwydd oddiar law y gwahoddwr, a chyda chydymdeimlad a thynerwch aeth dros helynt bore Sabbath. Cynghorodd ef i beidio digaloni pan y daw ambell rwystr ar ei ffordd gan nad o ba le y daw. Dychwelodd i'w lety y noswaith yn benderfynol o wneyd ei ddyledswydd yng ngwyneb unrhyw rwystrau a allai ei oddiweddyd. Aeth i'w Ie y bore Sabbath drarchefn a chariodd allan gynghorion Mr. Hughes, a llwyddodd ymhob cylch. Creda yn ddiysgog oni buasai am feddylgarwch a charedigrwydd ei gymwynaswr y buasai wedi myned ar y goriwaered, ac yn ol pob tebyg y tu hwnt i adferiad. Nid yw y gwasanaeth cyhoeddus a wnaed gan Mr. Hughes, er yn fawr, yn ddiau i'w gystadlu â'r gwasanaeth dirgel ac anghyhoedd a gyflawnwyd ganddo. Y mae, fodd bynnag, wedi ac yn llanw cylchoedd cyhoeddus er anrhydedd iddo ei hun a gwasanaeth i gymdeithas. Gwnaed ef yn Ustus Heddwch yn Llynlleifiad a Mon. Bu yn aelod o'r Cyngor Trefol yn y ddinas y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ynddi, a llanwodd y swydd o Uchel Sirydd yn ei sir enedigol. Y mae ei haelioni at wahanol achosion yn adnabyddus, ac nid yn lluosogrwydd a maint y symiau a gyfrennir ganddo yn unig y mae yn dangos ei ragoriaeth, ond hefyd yn ei graffder i adnabod achosion teilwng o gefnogaeth, a'i ddoethineb mewn trefnu ei roddion tuag at y cyfryw. Un o'i roddion diweddaf ydyw y neuadd hardd ynghyd a darllenfa a'r ystafelloedd cyfleus ereill wedi eu dodrefnu yn gyflawn, a chyda y gwelliantau diweddaraf mewn adeilad a dodrefn, a gyflwynwyd ganddo ychydig yn ol i fod yn eiddo bythol i'w ardal enedigol. Yr oedd hyn yn ei fwriad ac yn nod ymgyraedd ato ymhell cyn iddo feddu y moddion angenrheidiol i allu cario allan ei gynllun i weithrediad. Y mae erbyn hyn yn 78 mlwydd oed, yn treulio misoedd yr haf yn ei balas hardd filldir o'r lle y ganwyd ef. Y mae wedi ymryddhau o bob gofalon, ac yn mwynhau bywyd tawel ac hamddenol, y cyfryw nas gall neb ei fwynhau ond ar sydd wedi cyflawni ei ddyledswydd mewn bywyd gan ateb cydwybod ger bron Duw a dynion. Ceir ei weled ar brydiau yn esgyn y bryn ger llaw i edrych ar y môr ac ar yr agerdd longau fychain a mawrion yn prysuro heibio, a hwyrach yn teimlo fod prysurdeb hefyd yn elfen mewn gorffwysdra. Pryd arall gwelir ef yn ei gadair gysgodol yn darllen y Tadau Methodistaidd neu un o'r cylchgronau Cymreig. Gyda'r hwyr ceir ef yn gyffredin ar ei led orwedd yn ei ddarllenfa yn darllen y Drysorfa neu esboniad ar wers y Sabbath, neu ynte wrth ei fwrdd yn gwneyd trefniadau ar gyfer rhyw bwyllgor neu gilydd. Nid yw byth yn segur ond yn hytrach yn gorffwyso mewn gwaith.