Gwnaeth geisiadau mewn cyfeiriadau ereill. Bu yn masnachu mewn yd, a choll odd filoedd o bunnau yn yr anturiaeth. Ceisiodd wneyd i fyny am y golled trwy anturio yn y fasnach gotwm, collodd fil oedd yma drchefn. Ni bu ei golled yn y naill anturiaeth a'r llall yn ddim llai nag o £25,000 i £30,000. Penderfynodd o'r diwedd gyfyngu ei hun i'r fasnach ag yr oedd wedi llwyddo ynddi a'r un y gwydd ai fwyaf am dani. Meddai ar y synwyr a'r penderfyniad pan y gwelai ei fod yn colli mewn unrhyw gwrs i ddweyd wrtho ei hun,—"Hyd yma yr ai, a dim ymhellach." Pan ddaeth y dirwasgiad crybwyll edig cynhilodd ymhob cyfeiriad, lleihaodd ei dreuliau a gostyngodd ei gyfraniadau. Beiwyd ef am hyn, a dywedid ei fod yn cymeryd golwg llawer rhy gymylog ar bethau, ond yr oedd yn benderfynol beient a feiont y mynnai weithredu yn y fath fodd fel nas gallai neb estyn ei fys ato, ac awgrymu ei fod wedi peri colled, na chyflawni unrhyw weithred a fuasai yn y radd leiaf yn tueddu i daflu amheuaeth ar ei anrhydedd fel boneddwr a Christion.
Coronwyd ei ymdrechion mewn masnach a llwyddiant y tu hwnt i'w ddisgwyliadau, ac erbyn hyn y mae wedi encilio o'r ymdrech i fwynhau byywyd yn ei oreu. Gallesid dweyd pethau dyddorol am dano yn ei helyntion masnachol, ond camgymeriad fyddai tybied mai yn y cylch hwn yr oedd goreu ei fywyd yn cael ei dreulio. Os oedd ei hen wedi ei neillduo i raddau helaeth i'w amgylchiadau bydol, yr oedd ei galon gyda diwygiadau cymdeithasol a chrefyddol; y pethau hyn oedd yn cyfansoddi ei fywyd yn ystyr lawnaf y gair. Daeth sicrhau gwaith i fechgyn Cymru yn bwysicach yn ei olwg am flynyddau na gwneyd elw iddo ei hun. Aeth son ar led ei fod ef yn ogystal a Chymry ereill yn llwyddo fel adeiladwyr yn Llynlleifiad, a pharodd i'r son hwnnw i ddylifiad pobl ieuainc gymeryd lle o Gymru, ac yn enwedig o Fon, yn y gobaith y byddai iddynt hwythau lwyddo yr un modd. Ceid llawer bachgen yn gwynebu ar y dref fawr gyda'r bwriad a chan gredu y byddai iddo ymgyfoethogi gyda phrysurdeb heb fwrw'r draul, ac ystyried fod yn rhaid meddu penderfyniad, dyfal barhad, a grym cymeriad mewn trefn i lwyddo, a fod llawer yn ei chwenych ond ychydig yn ei chael. Nid yw yr hwn a goronir a llwyddiant ond un o gant. Y mae y rhai sydd yn llwyddo oblegid hynny yn dyfod yn adnabyddus; ond am y llu sydd ·yn methu, y maent yn colli o'r golwg, a'u lle nid edwyn ddim o honynt mwy. Yr oedd Mr. Hughes a'i ofal arbennig dros y bobl ieuainc a ymfudai yno o Gymru, yn enwedig bechgyn Mon. Adeiladodd gapel Cranmer i'r amcan o gael y gweithwyr at eu gilydd y Sabbathau a nosweithiau gwaith, a thrwy hynny eu cadw rhag myned ar ddisberod. Bwriadodd ar y cyntaf gasglu ato a derbyniodd £1 gan y Parch. Henry Rees, ond pan gyfarfyddodd Mr. Rees ymhen ychydig ddyddiau wedi hynny hysbysodd ef ei fod wedi adystyried y mater, a phenderfynu adeiladu y capel yn gwbl ar ei draul ei hun. Eglurodd i Mr. Rees mai gweithwyr oedd bron yr oll o'r gynulleidfa yn cychwyn eu gyrfa yn y ddinas, ac heb ganddynt hyd hynny nemawr i'w roddi, a dychwelodd y £1 i'r gweinidog. Buan y llanwyd y capel, a bu yn rhaid ei helaethu. Yma y bu yn flaenor am rai blynyddau nes yr aeth yr addoldy a eisteddai o 500 i 600 o bobl yn rhy fychan. Symudwyd i le arall a rhoddodd werth yr hen adeilad tuag at adeiladu y newydd. Er ei holl drafferthion nid oedd neb yn fwy cyson yn y cyfarfodydd. Ceir ambell ddyn yn y byd yn llawn prysurdeb holl ddyddiau ei fywyd, heh ganddo awr i'w hebgor i wasanaethu cymdeithas yn wladol na chrefyddol, er y gellid yn rhwydd gyfyngu ei holl fasnach i gylch anfesurol fach,—bob amser yn rhedeg ond byth yn dal. Hollol wahanol ydyw hanes Mr. Hughes. Byddai ymhob cyfarfod gweddi a seiat. Perthynai i luaws o bwyllgorau; ac nid absenolai ei hun o un o honynt yn yr adeg brysuraf arno. Ac am y Sabbath yr oedd yn Sabbath iddo mewn gwirionedd. Wrth adael ei swyddfa y Sadwrn yr oedd yn cefnu yn gwbl ar ofalon a helyntion ei fasnach hyd bore Llun. Byddai yn gyson yn yr addoldy dair gwaith y Sabbath. Nid oedd unrhyw swydd yn rhy ddistadl ganddo i ymgymeryd a hi, nac unrhyw waith yn rhy ddibwys ganddo i'w gyflawni os yn angenrheidiol. Yr oedd ei ofal dros holl aelodau y gynulleidfa, ac yn arbennig yr ieuenctyd. Bydd un engraifft yn ddigon i ddangos y modd y gofalai am yr ieuanc. Un bore Sabbath tra yr oedd hen weinidog o dymer ychydig yn afrywiog yn dechreu rhagymadroddi, tynnodd bachgen ieuanc, newydd ddyfodiad o'r wlad, a eisteddai yn y sedd ganu lyfr allan o'i logell ac ysgrifenodd enw y pregethwr arno gyda'r bwriad yn ol ei arfer o ysgrifennu pennau y bregeth. Canfyddodd yr hen weinidog ef, a chan edrych yn llym arno, dywedodd,—