Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newyddiaduron Saesonig ond pan y digwyddent fod yn brin o destynau i chwerthin. Trwy ymdrech diflino gwladgarwyr o dalent ac athrylith y mae pethau wedi cwbl newid, yn gymaint felly fel y mae boneddwyr o Saeson sydd yn byw yng Nghymru yn dechreu ystyried y priodoldeb o ymgydnabyddu â'n hiaith a dysgu eu plant felly. Erbyn hyn y mae y Senedd yn gorfod cydnabod ein bodolaeth, a'r wasg Saesneg yn gorfod ymostwng i'n gwasanaethu. Yr oedd hwn yn un o'r anhawsderau a wynebai y Cymro pryd bynnag y penderfynai esgyn i anrhydedd fel gwladwr. Felly yr ydoedd ac felly y bu am flynyddau lawer gyda Mr. Hughes. Nid oedd ganddo ond ychydig sylltau yn ei logell, prin ddigon i dalu am ymborth a llety am dridiau pan y glaniodd y noswaith hon. Cododd yn fore drannoeth i ryfeddu at yr heolydd llydain a'r adeiladau enfawr, ac er fod dwy ran o dair o'r tir y saif y dref arno yn awr yn feusydd gwyrddleision, eto i fachgen o'r wlad heb fantais darluniau na desgrifiadau newyddiaduron yr oedd ei maintioli, ei harddwch, a'i phrysurdeb masnachol yn llethol. Nid oedd ganddo yr amser, fodd bynnag, i ryfeddu, llawer llai hiraethu, oblegid ymladd am fodolaeth oedd raid iddo bellach. Cafodd waith gyda Chymro am gyflog bychan, rhy fychan i dalu am lety ac ymborth. Daeth i ddeall fod cryn wahaniaeth rhwng bod yn saer gwlad a bod yn saer tref. Ymroddodd i'w waith gyda phenderfyniad a dyfalbarhad didroi yn ol, a chyn pen ychydig fisoedd nid oedd neb ar y gwaith yn derbyn uwch cyflog. Talodd sylw manwl i'r modd y dygid pob rhan o'r gwaith ymlaen. Defnyddiai ei oriau hamddenol yn bennaf i ddysgu mesuriaeth a changhennau ereill oedd yn dwyn perthynas a'i alwedigaeth, ac ni chollodd unrhyw gyfleusdra i ddyfod i wybod prisiau nwyddau adeiladu, a gwnaeth bob ymdrech i feddu syniad am werth gwahanol adeiladau. Wedi rhyw ddwy flynedd o weithio wrth y dydd, penderfynodd wella ei hun trwy gymeryd drysau a ffenestri i'w gweithio wrth y droedfedd. Gweithiai yn yr haf tra gyda'r gorchwyl hwn o bedwar o'r gloch y bore hyd wyth a naw o'r gloch y nos. Llwyddodd yn fuan i gasglu y swm o £ 80, a chyda'r cyfalaf hwn y dechreuodd fel adeiladydd. Prynnodd ddarn o dir ac adeiladodd chwech o dai arno, a chyda boddhad yr edrychai ar yr adeiladau wedi eu gorffen fel ei anturiaeth gyntaf. Cafodd mortgage ar y tai yn ol 5 y cant, ac ardreth yn ol 10 y cant, yr hyn a hyrwyddodd ei ffordd i adeiladu rhagor. Aeth rhagddo yn y cyfeiriad hwn nes o'r diwedd yr oedd yn gallu rhifo ei dai wrth y cannoedd. Wedi i sicrhau graddau lled helaeth o lwyddiant yn y cyfeiriad hwn dechreuodd adeiladu ystordai, ac adeiladodd werth cannoedd o filoedd o bunnau o'r cyfryw. Tua'r adeg yma torrodd rhyfel allan yn yr America, a pharodd hynny gryn atalfa ar ei lwyddiant. Dilynwyd hyn gan ddirwasgiad masnachol pwysig, ond a brofodd yn llethol yn y fasnach adeiladu. Teimlodd yntau oddiwrth y dirwasgiad fel yr oedd yn colli yn flynyddol am o chwech i saith mlynedd o £2,000 i £12,000 yn yr ystordai yn unig. Nid oes dim am a wyddom yn myned ymlaen mewn llinell union, ond o r naill eithaf i'r llall, o guriad y gwaed hyd at symudiadau trai a llanw y môr. Nid yw masnach yn eithriad i'r rheol, a bu craffder Mr. Hughes i weled hyn o fantais dirfawr iddo. Er na ddychymygodd y buasai pethau yn cymeryd cwrs mor eithafol, eto nid oedd heb ymbaratoi ar gyfer y trai. Llwyddodd i fyned trwy yr argyfwng yn anrhydeddus, ac o hynny cyfododd y llanw yn uwch uwch.