Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwynt, golli dim; ond nid felly gyda'r Dr. Hugh Jones. Colled fawr i'r gwrandawyr yw colli ei ran flaenaf ef o'i bregethau; felly, ar ryw olwg, nid teg yw eu beio am gwyno.

Peth arall hefyd, y mae yn Gymreigiwr heb ei ail-y mae yn gosod anrhydedd ar ein hiaith ni. Yr ydym ni wedi arfer edrych i fyny at y pulpud, yn anad un man arall, am glywed iaith yn cael ei harfer yn briodol. Ond ysywaeth, yr ydym yn cael ein siomi yn aml iawn; bum cyn hyn yn teimlo wrth wrandaw rhai o'n dynion mwyaf dysgedig yn camarfer ein iaith, ei chymysgu â geiriau na fyddant na Chymraeg na Saesoneg. Gwyn fyd na chraffai llawer ar Gymraeg bur, gref, a chwaethus Dr. Hugh Jones.

Y mae Dr. Hugh Jones, erbyn hyn, yn gawr ymysg ei frodyr ymhob cylch o wneyd daioni.

David Hughes

Ganwyd Mr. David Hughes yn Cemaes, Mon, yn y flwyddyn 1820. Cadwai ei dad a'i fam dy capel y Methodistiaid yn y lle uchod. Cyflawnasant eu dyledswyddau yn y cylch hwn yn gwbl foddhaol, heb ond ychydig os dim cydnabyddiaeth. Yr oedd y fam yn wraig rinweddol, ac yn neillduol o fedrus mewn trefnu eu hamgylchiadau i'r fantais oreu er budd ei phriod a'i phump plentyn. Y swm mwyaf o gyflog a dderbyniodd David Hughes y tad yn yspaid ei oes ydoedd naw swllt yr wythnos. Ar y swm hwn, a llai, y dygodd ei blant i fyny yn barchus, gan roddi rhyw gymaint o ysgol i bob un o honynt o'r fath ag oedd i'w chael y pryd hwnnw. Yr oedd y tad yn hynod am ei haelioni a chymeryd i ystyriaeth yr amgylchiadau. Rhoddai ddernyn o arian yn llaw pob un o'r plant i'w roddi mewn casgliad blynyddol, a rhyw gymaint o bres yn y casgliad misol gyda chysondeb difwlch. Diameu mai yma y cafodd David Hughes, Ieu., y wers gyntaf a'r wers fwyaf effeithiol, mewn haelioni. Y mae y tad a'r fam i'w rhestru ymhlith y dorf o wir gymwynaswyr dynoliaeth sydd wedi treulio eu hoes mewn dinodedd ac i golli mewn anghof hyd ddydd y cyfrif.

Wedi cael ychydig dros flwyddyn o ysgol, aeth David ieuanc i wasanaeth masnachol i Amlwch fel negesydd, ond nid hir y bu yn llanw y swydd hon na feddiannwyd ef gan awydd cryf i fod yn grefftwr. Rhoddodd ei rieni bob cefnogaeth i'r syniad, a chafodd fyned yn egwyddorwas o saer coed at un John Lewis a gadwai waith yng nghymydogaeth Llanfechell. Ni bu lawn ddwy flynedd yng ngwasanaeth y gwr uchod na chynhyrfwyd ef gan yr uchelgais i fyned i Lynlleifiad, a gwneyd enw iddo ei hun fel adeiladydd, gan y son am ryw Gymro wedi gwneyd hynny. Aeth i holi am long, a chafodd fod llestr fechan oedd yn arfer cludo nwyddau o Lynlleifiad i Amlwch ar fedr cychwyn. Gorfu iddo fod ar fwrdd y llong yn fore. Yr oedd yr hwyliau wedi eu codi pan y cyrhaeddodd, a buan y dechreuodd symud yn araf gyda'r llanw. Gyda theimladau cymysglyd y bu yn cerdded yn ol a blaen ar ei bwrdd, weithiau yn edrych yn ol yn hiraethus tua chartref, bryd arall yn edrych ymlaen yn galonnog tua'r dref fawr ag oedd cyn belled o Amlwch y pryd hwnnw i bob pwrpas ymarferol ag ydyw'r America o Lynlleifiad. Tynnid ei sylw ar brydiau gan y lluaws a'r amrywiol longau oeddynt naill ai yn gadael neu ynte yn cyrchu tua'r Afon Mersey, a dyfalai pa fath le a allai fod y dref yr oedd cymaint o drafnidiaeth iddi ac o honi, a'r un ag yr oedd yntau yn bwriadu ymsefydlu ynddi. Tra gwahanol oedd yn ddiameu i'r hyn ydyw yn awr, a thra gwahanol y drafnidiaeth y pryd hwnnw,—llongau hwyliau a welid yn symud ymhob cyfeiriad a.hynny ar y cyfan yn ddigon pwyllog, ac yn yn awr agerdd longau a welir yn rhedeg yn y naill gyfeiriad a'r llall. Ac os ydym wedi ennill mewn cyflymdra a defnyddioldeb yr ydym wedi colli mewn harddwch. Y mae golwg wir fawreddog ar long o dan ei llawn hwyliau yn symud yn esmwyth o flaen yr awel.

Glaniodd yn y dref fawr a dieithr ag oedd i fod yn gartref iddo am hanner canrif yng ngwyll y nos. Er ei fod wedi cael ychydig dros flwyddyn o ysgol, nid oedd ganddo ond ychydig Saesneg i wynebu tref fel hon. Yr oedd ganddo fel ereill i wynebu y rhagfarn oedd yn ffynnu y pryd hwnnw ac am lawer o flynyddau wedi hynny yn erbyn Cymry a Chymraeg. Ystyriai pob un a fynnai ennill unrhyw safle gymdeithasol parchus fod yn anhebgorol iddo naill ai gwadu ei genedl a'i iaith neu ynte eu hanwybyddu. Yr oedd aelodau seneddol ein gwlad naill ai yn Saeson neu ynte yn Gymry yn ceisio bod yn Saeson. Yr oedd bron pob swydd o fri yn cael ei llanw gan Sais neu ynte gan Gymro heb fedru Cymraeg. Nid oedd Cymru prin yn deilwng o sylw yn y prif