Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae wedi parhau yn Ymneillduwr selog, cyson, ac o argyhoeddiad dwfn. Gresyn yw canfod llawer o'n cydgenedl y'Nghymru yn gwadu eu Hymneillduaeth ar ol i Dduw yn ei Ragluniaeth wenu arnynt. Nid felly Mr. Edward Lloyd, ac nid felly y gwna ein prif farsiandwyr yn Lerpwl. Hyn sydd yn cyfrif am nerth a haelioni Ymneillduaeth yn ein dinas. Y mae Mr. Lloyd yn flaenor a thrysorydd yr Eglwys Anibynnol Gymreig yn Grove Street. Efe yw swyddog hynaf yr eglwys, ac y mae parch ei gydaelodau iddo bron yn ddiderfyn.

Y mae yn drwyadl genedlgarol. Y mae yn aros yn Gymro o dafod a nodweddion. Ni fedd y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig aelod mwy selog na Mr. Lloyd, na'r Eisteddfod Genedlaethol ddilynydd mwy ffyddlon, os na wnawn eithrio Mrs. Lloyd ei hun. Y mae yn bleidiwr ymarferol i bob sefydliad Cymreig yn ein dinas. Un o'r profion diweddaf o hyn yw ei sel ef a Mrs. Lloyd dros lwyddiant "Y Cartref Cymreig i Ferched Gweini" yn Lerpwl.

Y mae yn haelionus yn ei gyfraniadau at bob achos teilwng yn Lerpwl ac oddi allan iddi. Nid yn fynych y cyfarfyddir a neb mor galon dyner a llaw agored i gynorthwyo achosion teilwng. Ychydig sydd yn cyfrannu mwy nag ef yn flynyddol at achosion Eglwysig, os cymerir i fewn ei gyfraniadau i Grove Street ac i eglwys y Wesleyaid ym Mynydd Seion (yr eglwys y mae Mrs. Lloyd yn aelod mor ddefnyddiol o honi) ac eglwysi Pen y Garnedd a Phenbont Fawr, lle y treulia'r teulu fisoedd yr haf. Gofod a balla i ni fanylu ar ei gyfraniadau i eglwysi gweiniaid perthynol i'r Annibynwyr yn Lerpwl ac Y'nghymru. Y mae yn ddirwestwr selog ac egwyddorol. Diau ei fod yn teimlo fod ei iechyd corfforol a'i lwyddiant masnachol ef ei hun wedi cael eu cynnorthwyo yn fawr gan ei arferion dirwestol. Dyna un rheswm mawr am ei sel drosti. Wedi ei ddyrchafu i'r Fainc Ynadol yn y ddinas y mae yn bleidiwr selog i ddirwest, a defnyddia bob gallu cyfansoddiadol i gyfyngu ar y fasnach mewn diodydd meddwol, a lleihau drwy hynny brofedigaethau i ddiota a meddwdod.

Pan yr ychwanegir at hyn ei grefyddolder dwfn, ond syml a naturiol, hawdd yw deall y parch a deimlir ato gan ei gydgenedl yn Lerpwl. Ar iddo gael hir flynyddoedd eto i wasanaethu ei gyd- genedl yw dymuniad diffuant pawb sydd yn ei adwaen.

Parch Hugh Jones

Nid wyf yn meddwl y fod neb yn fyw ym mysg Cymry Cymru nac ychwaith ym mhlith Cymry Lloegr, na chlywsant son am "Hugh Jones Lerpwl," er y dichon y fod lluaws mawr heb erioed gael y fraint o'i weled. Gall y rhai hynny yn hawdd iawn ffurfio y syniad pa fath ddyn ydyw; y mae y darlun, a defnyddio llafar gwlad, yr un ffunud ag o ei hun; a phan y d'wedaf wrthyt, ddarllennydd, mai trwy lafur mawr y llwyddwyd i gael y darlun o hono, byddaf ar yr un pryd yn rhoddi darlun lled gywir iti hefyd o gymeriad y gwr hynod hwn,—gwaith anhawdd iawn ydyw ei gael i'r ffrynt mewn dim. Rhyw duedd anghyffredin i fod yn guddiedig sydd ynddo—ac nid tuedd gwneyd mohono, ond felly y mae wrth natur. Nid am fod ynddo brinder galluoedd, gwyr pawb, y myn gadw o'r golwg, oblegid y mae ynddo allu, a gwyr y rhai a'i hadwaenant hynny yn dda, er ei fod yntau, fel llawer o'i flaen, yn rhagori mewn rhyw un pwynt i'w gyd-ddyn. A'i ragoriaeth fawr ef ydyw rhagoriaeth pregethwr; yn sicr ddigon i hynny yn bennaf ei galwyd, ac yn y peth hwn nis gall fod yn guddiedig