Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

David Powell

GWEINIDOG y Bedyddwyr yn Everton Village ydyw y Parch. David Powell, ac olynydd i'r Parch. Charles Davies, yr hwn ar ol amryw flynyddoedd o weinidogaethu ar yr eglwys hon a symudodd i'r Deheudir. A dyma ŵr o'r Deheudir yn llanw ei le. Magwyd Mr. Powell yn ardal fwnawl Sirhowy. Ei rieni oedd Thomas a Susannah Powell; fe wyr Eglwys Carmel am ei ffyddlondeb hwynt. Yr oedd Cynddelw a hwythau yn gymydogion a chyfeillion mynwesol, a derbyniodd y bachgen gryn fesur o ddelw y gwr mawr hwnnw arno ei hunan. Nid llawer o fanteision addysg boreuol a gafodd. Ond rywfodd fe ragorodd ar ei gyd-ysgoleigion, hyd yn oed fel yr oedd pethau y pryd hynny. Yr oedd i'r ardal honno, fel i ardaloedd ereill yn gyffredin, Ysgol Leol, ac yn honno y bu am ryw gymaint, o dan athrawiaeth un o'r enw "Morgans bach." Wedi gorffen yno aeth i ysgol a gynhelid yn Town Hall, Tredegar. Tua naw oed oedd pan adawodd yr ysgol hon.

Yn ychwanegol at hyn penderfynodd hogiau y pentref godi ysgol nos. Felly fe penodwyd Mr. Evan Powell, brawd hynaf David Powell, yn athraw arnynt. Rhagorai David Powell yn yr ysgol hon, ac enillodd wobrwyon mewn cyfarfodydd ac eisteddfodau, ar destynau "Rhagoriaeth y Beibl," "Llafur," "Gorffwys a Difyrrwch," "A ddylai Crefyddwyr fod yn Llwyrymwrthodwyr," "Galluoedd y meddwl dynol," "Dylanwad Mam," a llawer yn rhagor. Cofier mai hogyn wrth ei ddiwrnod gwaith oedd pan yn cyfansoddi ac yn ysgrifennu. Gwyr yn dda beth yw gwyneb du gan lwch glo a chwys yn gymysg â hwnnw. Tra yn y pwll glo hefyd yr oedd yn darparu ar gyfer Coleg. Ac wrth sefyll yr arholiad—safai yn drydydd o naw wrth fyned i mewn i goleg Hwlffordd. Bu yno am tua phum mlynedd, ac enillodd y "Founder's SchoLarship." Dechreuodd ei yrfa weinidogaethol yn Painscastle a Moriah; wedi hynny bu yn y Dolau a Rhaiadr; yn 1889 daeth i Lerpwl. Y mae yn fyfyriwr diwyd o hyd, a ffrwyth myfyrdod addfed yw ei bregethau grymus. Y mae yn wladgarwr o'r iawn ryw ac, fel bron yr oll o weinidogion a phregethwyr y dref, y mae yn ddirwestwr ymroddgar. Llawer o flynyddoedd y bo yn ein mysg.


Edward Lloyd

Ni wyr Cymry Lerpwl ond am un Edward Lloyd. Os crybwyllir yr enw, rhed y meddwl yn uniongyrchol at y boneddwr haelfrydig a chenedlgarol sydd yn preswylio yn Falkner Square. Beth sydd wedi gwneyd y gŵr wisga'r enw yn gymeriad mor adnabyddus ymhlith ei gydgenedl yn Lerpwl? Hawdd yw ateb y gofyniad. Y mae yn fasnachwr llwyddiannus yn y ddinas. Ganed ef yn agos i Benbont Fawr ychydig dros drigain mlynedd yn ol. Rhwymwyd ef yn egwyddorwas fel brethynwr yn Llanfyllin. Yna daeth i'r ddinas hon, ac yn fuan dechreuodd fusnes ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Falkner Street. Gyda diwydrwydd a deheurwydd y mae wedi dyfod yn farsiandwr ar raddfa eang, ac yn cynhyddu felly o'r naill flwyddyn i'r llall.