Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amlwg fel cerddor ac arweinydd corawl medrus; oblegid yn y cyfnod hwn, y mae yn dod i gysylltiad â cherddorion enwog iawn. Ar ol treulio rhyw gymaint o amser yng Nghaerloyw, gyda Dr. S. S. Wesley, Fe cafodd gynnyg ar le fel organydd, y mae yn myned i Lundain. Treuliodd bedair blynedd yn Llundain, a phedair blynedd o lafur caled fuont iddo; ond y mae ef ar ei fantais heddyw, ac yr ydym ninnau fel cenedl hefyd ar ein mantais ar yr adeg yna o fywyd Mr. Roberts, am mai yn ystod yr adeg honno y cyfansoddoda amryw ddarnau a fyddant o wasanaeth dirfawr i Gymru ym mhen blynyddau i ddod. Bu y blynyddau hynny yn Llundain yn foddion dadblygiad i'r galluoedd cerddorol oedd yn y dyn ieuanc o Fethesda. Yno y cymhwyswyd ef i fod yr hyn ydyw heddyw i Gymru. Ar ol gorffen yn Llundain, y peth cyntaf a wna ydyw myned i gyfrannu o'i oleuni ef i bobl ei ardal. Y mae yn ymgymeryd a bod yn organydd Eglwys Anibynnol Bethesda; aeth oddiyno i Gaernarfon; ac yn 1897 daeth i Lerpwl fel organydd Eglwys Chatham Street. Yn ystod y tair blynedd y bu yn Lerpwl ni fu yn segur; y mae o wasanaeth dirfawr i Gymry Lerpwl. Y mae i Mr. Roberts enw trwy Gymru fel beirniad teg a chyfiawn mewn cyfarfod llenyddol ac eisteddfod. Y mae ei hanes hefyd yn dangos i fechgyn ieuainc beth all egni ac ymroddiad wneyd i ddadblygu gallu.

David Owen Jones

Un o fechgyn Penmachno ydyw y Parch. D. O. Jones,—mab i Owen a Jane Jones, Glasgwm Hall. Pan yn fachgennyn, medrai chwareu cystal a'r un, a gallai ddysgu, hefyd, yn gystal, os nad gwell, na'r un o'i gydysgolheigion. Waeth beth a ddywedir am hen ysgolion y llannau a'r pentrefi flynyddau yn ol, y mae aml un sydd wedi dringo i safleoedd uchel erbyn hyn yn dra dyledus iddynt. Yn un o'r rhain y cychwynnodd Mr. Jones—ac oddi yno aeth i ysgol ramadegol Llanrwst, ac wedi hynny i'r Grove School, Gwrecsam, am ddwy flynedd, lle y llwyddodd i basio y "Junior Cambridge a'r Senior Oxford Local Examination," ac nid oedd eto namyn un ar bymtheg oed. Wedi gadael yr ysgol hon, aeth i weini i'r N. & South Wales Bank yn y Drefnewydd. Wesleyaid oedd ei rieni, ac yntau hefyd hyd yn hyn, ond gan nad oedd achos Cymreig yn y Drenewydd, ac nad oedd yn hoffi gyda'r Saeson, ymunodd â'r Anibynwyr Cymreig. Ymhen ychydig, dechreuodd bregethu gyda hwynt. Felly, i'r Anibynwyr y mae y Wesleyaid yn ddyledus am ei godi'n bregethwr, ac i Glanystwyth y maent i ddiolch am ei arwain i'r hen gorlan yn ol. Ond nid yw ef yn ddyn sect, mae yn llydan a goddefgar ei ysbryd, fei cymaint o'n harweinwyr yn Lerpwl. "Yr ydym yn ddyledus i Gymru am ein henwadaeth," meddai, "ond y mae y culni yn graddol gilio." Dengys ei lyfrgell mor gatholig yw ei feddwl. Y mae llyfrgell pregethwr yn dangos y dyn yn well na dim arall. Tybiwn fod llyfrau Mr. Jones yn ei ddangos,—gwelir yn eu mysg waith Hiraethog, Eben Fardd, Islwyn, Lewis Edwards, John Jones Talysarn, ac Owen Thomas. Y mae yn ysgrifennydd rhwydd a phoblogaidd iawn. Nid oes iddo, yn ol trefn ei enwad, arhosiad hir yma. Y mae'n amlwg oddiwrth y cyngor draddododd ar ordeiniad gweinidogion yng nghymanfa Machynlleth yn haf y llynedd fod bywyd o ddefnyduioldeb mawr o flaen. Ond, er y bydd yn rhaid iddo adael Lerpwl, erys ei ddylanwad ar fywyd a meddwl y lliaws gafodd y fraint o ddod i gyffyrddiad ag ef.