Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fysedd na cholli ysgol Sul y capel. Dyna eginyn Ymneillduaeth yng ngha͏͏͏͏͏lon y plentyn. Dysgodd ddioddef yn fore, o dan yr "athraw creulon," fel y geilw fe ef.

Pan yn hogyn deuddeg oed, aeth i weithio i chwarel Bethesda. Y mae y gwaith yn dygymod âg ef, y mae yn tyfu, yn gorfforol ac fel chwarelwr. Yn yr adeg yma yr oedd dirwest yn bur uchel ei ben yn yr ardal—yr oedd y Gobeithlu wedi ei sefydlu yno, ac yr oedd yntau yn aelod ffyddlon iawn. Yr oedd mor amlwg fel dirwestwr, fel y'i gelwid yn aml iawn i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Fe wel y sawl sy'n dilyn yr hanes hwn, ei fod yn un oedd yn byw adeg diwygiad 1859, a gallwn dybio ei fod wedi derbyn yn dra helaeth or dylanwadau hynny sydd i w cael mewn diwygiad. Ac nid oedd ei fod ef yn ddirwestwr mawr o un rhwystr, a dweyd y lleiaf, iddo dderbyn or dylanwad hwnnw.

Pan yn llanc ugain oed, daeth i Lerpwl i'r ysgol, ond ni chaniatai y llogell iddo aros yn hwy na chwe mis. A chan ei fod yn teimlo awydd dysgu Saesneg, fe brentisiodd ei hun gydag adeiladydd i ddysgu gwaith saer maen. Yr oedd ganddo amcan da pa fodd i drin arfau. Ni fu yn hir cyn meistroli y gelfyddyd hon. Yn fuan cafodd le fel foreman gydag adeiladydd yn y dref. Yna daeth i deimlo mai nid da bod dyn ei hun; fe briododd,—ac os edifarhaodd am rywbeth yn ei oes, yn sicr nid edifarhaodd am hyn. Y mae Mrs. Thomas ymysg gwragedd mwyaf rhagorol Lerpwl mewn pob da. Dechreuodd adeiladu ar ei gyfriioldeb ei hun—ac fe lwyddodd i fesur helaeth iawn.

Yr oedd hefyd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â Themlyddiaeth Dda yn y dref. Nid anghofiodd Mr. Thomas ei hunan yn swn a helynt yr adeiladu; yr oedd, ac y mae, yr achos dirwestol mor anwyl ganddo a'i dai. Yn 1897, etholwyd ef yn flaenor eglwys Princes Road, ac y mae yn un o'i hysgrifenyddion yn awr. Rhoddodd y Temlwyr Da yr anrhydedd o'u cynrychioli yn Uwch Deml y byd yn Toronto, Canada, iddo, a phan ar ei ymweliad swyddogol â'r lle hwnnw, cafodd yr anrhydedd o dderbyn, ar ran plant Cymru, faner brydferth a enillwyd ganddynt mewn cystadleuaeth oedd yn agored i'r holl fyd. Y mae Mr. Thomas yn medwl yn uhcel iawn o'r anrhydedd hon a gafodd. Tra yno hefyd traddododd anerchiadau yn Gymraeg a Saesneg, gyda chymeradwyaeth gyffredinol. Yr ydym wedi edrych ar ei fywyd o gyfeiriad Dirwestiaeth, gan fwyaf. Gallesid dweyd llawer am dano o gyfeiriadau ereill, megis fel Ymneillduwr a Gwladwriaethwr.

John Henry Roberts (Pencerdd Gwynedd)

Pwy o fewn Cymru benbaladr na chlywodd son am Bencerdd Gwynedd? Fe'i ganwyd ym Mhenrallt, Llandegai, Arfon. Y mae yn gerddor o waed; yr oedd ei dad yn gerddor da, ac yr oedd yntau yn organydd pan yn blent yn deuddeg oed. Pan yn bedair ar ddeg, cyfansoddodd amryw donau ac anthemau; a thua'r un oed arferai gynnal dosbarthiadau i ddysgu cerddoriaeth i ereill. Chwi sylwch iddo gaei ei eni mewn ardal gerddorol iawn, a chafodd ei eni hefyd ar adeg yr oedd lluaws mawr o gerddorion enwocaf Cymru ar y maes. Onid yn y to oedd o'i flaen ef y cawn Ambrose Lloyd, Tanymarian, Owain Alaw, Ieuan Gwyllt, ac ereill? Y mae ymdrechion boreuöl y cerddor yn ddyddorol. Ni weithiodd fawr yn y chwarel, ond fe wasanaethodd fel ysgrifennydd chwarel yn Towyn Meirionnydd am ryw hyd. Nis gallasai fod yn llonydd yno heb sefydlu côr, heblaw cyfeilio mewn rhyw gyngherddau fyth a hefyd. Credir i'r symudiad yma, a'i arosiad yn Nhowyn, fod yn foddion neillduol i'w dwyn i'r