Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi bod am ychydig yn ysgol y pentref, aeth oddi yno i'r gwaith mwn,—ond nid aeth yno heb ei lyfr. Gwnaeth ddefnydd o bob munud hamddenol a gawsai i ddarllen. Felly, drwy ddiwydrwydd, fe lwyddodd yn ieuanc iawn i ddysgu Lladin a'r Ffrancaeg. O'r olaf cyfieithodd weithiau Pascal. Ar ol treulio ychydig o amser yn y gwaith mwn—fe'i dewiswyd yn athraw cynorthwyol i ysgol y pentref; yn lle gwasanaethu am bedair blynedd, gwnaeth ef y gwaith mewn dwy, a daliodd y swydd o Brif Athraw am dymor. Bu am ddwy flynedd yng ngholeg Normalaidd Bangor; wedi hynny aeth yn ysgolfeistr i ysgol y Bryn, Llanelli; ac wedi hynny i Ystradgynlais. Oddiyno pasiodd arholiad Matriculation Prifysgol Llundain, arholiad galed, fel y gwyr lliaws.

Yn Ionawr, 1874, aeth i Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, Enillodd yr ysgoloriaethau uchaf gynhygid yno, ac yn ystod ei arhosiad enillodd ei B.A. ym Mhrifysgol Llundain.

Yn 1878, ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwysi Hawen a Bryn Gwenith. Cymerodd ei enw barddonol oddiwrth un ardal, cafodd gydmares ei fywyd o Bant y Gwenith.

Yn, y flwyddyn 1888, gadawodd y De am y Gogledd, daeth i Fethesda, Arfon; ac yn 1895 disgynnodd ei goelbren gyda Chymry Lerpwl, a dymunwn longyfarch eglwys Grove Street yn eu dewisiad.

Ni fydd Mr. Adams yn hir yn unlle cyn dangos ei fod yn caru ei genedl, yn caru ei iaith, yn caru ei enwad ei hun, ac yn caru yr holll enwadau. Bob achos da,—ar wahan i enwadaeth,—y mae ef a'i ysgwyddau cryfion odditano. Pan gyflwynwyd yr Holwyddoreg newydd hwnnw i'r ysgolion dyddiol ychydig amser yn ol, fe weithiodd fel llew yn ei erbyn. Pe na wnaethai ddim ond hynyna, byddem fel cenedl yn Lerpwl yn ddyledus iddo. Mae'n ddirwestwr selog ac ymdrechgar. Cymerodd ddyddordeb neillduol ym mhobl ieuainc y dref, ac y maent hwythau yn cymeryd cymaint dyddordeb ynddo yntau. Y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yntau yn gyfeillion. Y mae Cymdeithas Athronyddol Crosshall Street hefyd yn manteisio arno. Mewn gair, ni wyddon- am yr un cylch cyhoeddus,— Cymreig — os o duedd ddaionus,—na bydd ef yno.

Nid wyf eto ond wedi megis cyffwrdd â'r hyn a wnaeth, ac y mae yn ei wneyd. Beth am ei ysgrifeniadau, ei draethodau, ei bryddestau, &c. Ni a adawn i'r cadeiriau a'r goron ateb dros y pethau yna. Adwaen Cymru ef fel bardd; a gwyr am dano fel un o'r meddylwyr cliriaf a dewraf ymysg pigion ei meibion.

John John Thomas

Dyma ddarlun o'm blaen o un o wyr cadarnaf Lerpwl, ym mlodau ei oes, gwr penderfynol, nid pob awel o wynt a'i tafl. Ganwyd John John Thomas yn 1841 ym Mhen y Ceunant, Bethesda. Enwau ei rieni oedd John a Mary Thomas, Pant Glas. Yr oedd ei dad yn llenor ac yn ramadegwr da iawn, ac yn rhifyddwr campus, er na chafodd awr erioed o ysgol. Clywais Mr. Thomas yn dweyd hanesyn am ei dad. Pan oedd ef yn fachgen yn y dref hon yn yr ysgol, anfonodd ei dad broblem gydag ef i'w ysgolfeistr i'w dadrys, ac er i hwnnw ddefnyddio llond cwpwrdd o bapyr y mae y broblem heb ei gwneyd ganddo eto. Arferai J. J. Thomas fyned i'r ysgol yn ei gartref pan yn blentyn; ond dyna y pum