Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhai o Gymry Lerpwl


Cyfres o erthyglau o Cymru (cylchgrawn) Cyfrol 19, 1900 (Golygydd Owen Morgan Edwards)
Cylchgronau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Rhai o Gymry Lerpwl

Rhagymadrodd

AWGRYMODD cyfaill ffyddlon i mi mai eithaf peth fyddai rhoddi ambell gipdrem ar fywyd y presennol, ac ar rai sydd wrthi yn brysur yn gwneyd hanes, yn lle syllu'n ol ar y gorffennol o hyd. Yn ol ei awgrym, yr wyf yn ceisio darluniau rhai sy'n arwain yn ein gwahanol drefi, ac ychydig nodiadau ar eu hanes. Yn eu mysg y mae rhai sy'n adnabyddus ddigon ir holl genedl, a gwn y bydd yn dda gan bawb weled darluniau ohonynt Trefn damwain fydd trefn eu dewisiad; ond, yn raddol, gobeithiaf gael oriel gynrychiola wahanol agweddau bywyd Cymru. Peth anodd yw darbwyllo llawer i adael i'w darluniau ymddangos, peth anhawadach byth yw cael ychydig o'u hanes. Trwy lawer o ddiwydrwydd, os nad cyfrwystra, rhai o'r golwg, y ca'r miloedd wybod hanes cywiraf eu gwyr cyhoeddus enwog. Naturiol yw dechreu gyda Lerpwl, a rhoi ychydig rifynnau i rai o'i henwogion aml hi. Ystyrrir Lerpwl, yn ddigon aml, fel rhyw fath o brif ddinas i Ogledd Cymru. Oddiyno y caiff prif symudiadau y Gogledd er daioni y cymorth parotaf a mwyaf sylweddol. Rhydd Cymru hithau rai o'i meibion mwyaf dewisol i wasanaethu Lerpwl, yn bregethwyr, yn newyddiadurwyr, yn farsiandwyr, yn feddygon, yn athrawon, yn grefftwyr. Ymysg ereill, oni chafodd wasanaeth Goronwy Owen, druan, a John Hughes yr hanesydd, a Gwilym Hiraethog a Henry Rees, a Dr. Owen Thomas a Dr. John Thomas? Nid oes odid bregethwr enwog, megis Dr. Saunders neu'r Prifathraw Thomas Charles Edwards, na cheir, ond odid, ei fod wedi treulio rhyw ran o'i oes i wasanaethu pobl Lerpwl. Yn Lerpwl y mae bywydau Cymreig wedi eu byw sydd, o wybod amdanynt, yn ddigon i danio uchelgais ac i ddyblu ynni pob bachgen o Gymro. Yno y bu John Gibson, yn Gymro bychan tlawd o Ddyffryn Conwy, yn syllu ar y darluniau yn ffenestri'r siopau tra'n ymlwybro'n egniol ymlaen i'r goleu lle'r edrychodd byd celfyddyd arno mewn edmygedd parchus. Yno y bu llawer bachgen o Fon ac Arfon, heb ddim i gychwyn ond ychydig arfau saer neu ychydig sylltau, yn codi, trwy ddiwydrwydd ymdrechgar, i safleoedd o olud, dylanwad, a pharch. Ac yno, i wasanaethu rhan ddiwylliedig a meddylgar o'n cenedl, gelwir rhai o feddylwyr ac areithwyr mwyaf grymus De a Gogledd hyd heddyw. Philistaidd yw Lerpwl wrth natur ac nis gall sylweddoli ei dyled i'r Cymry sydd wedi ei lefeinio âg elfen fwy barddonol. Amcan y bywgraffiadau byrion sy n dilyn yw dangos pa fodd y mae Cymry Lerpwl yn gweithio mewn gwahanol gyfeiriadau.


David Adams (Hawen)

Ganwyd David Adams yn ardal Talybont, Ceredigion, ychydig dros ddeng mlynedd a deugain yn ol. Cafodd gychwyniad da, oherwydd yr oedd iddo dad a mam nodedig o grefyddol. Yr oedd ei dad yn bregethwr, ac yn un oedd yn feddiannol ar alluoedd uwchlaw y cyffredin hyd yn oed o bregethwyr. Am ei fam, tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai oreu ydoedd mai—

Diddig garedig ydoedd,
Man i serch ei mynwes oedd."

Ac o'u nodweddion hwynt, fe yfodd eu mab yn dra helaeth.