Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgolion Eglwys Loegr ac ysgolion Pabyddol, dros y rhai nid oedd gan y cyhoedd unrhyw reolaeth nac awdurdod. Teimlid hyn gan Ymneillduwyr yn gamwri a gormes. Eu dadl hwy oedd, os oedd arian y cyhoedd yn myned i gynal yr ysgolion hyn, y dylasai y cyhoedd drwy eu cynrychiolwyr gael eu rheoli hefyd. Cododd y teimlad yn uwch ac yn fwy angerddol yn Nghymru gan fod Ymneillduwyr yno yn fwyafrif mawr y bobl.

Yn nglyn a'r Mesur hwn y daeth Mr. Lloyd George i wrthdarawiad cyhoeddus a'r Aelodau Gwyddelig. Mae'r Werddon mor Babyddol ag yw Cymru yn Ymneillduol. Felly, er nad oedd y Mesur newydd yn cyffwrdd dim a'r Werddon, eto, yn gymaint a'i fod yn rhoi arian i gynal ysgolion Pabyddol yn Lloegr a Chymru, cefnogai'r Blaid Wyddelig y mesur er mai Llywodraeth Doriaidd a'i dygai yn mlaen, ac er y rhaid i'r Gwyddelod felly bleidleisio yn erbyn eu cyfeillion oeddent am roi Ymreolaeth i'r Werddon. Danododd Lloyd George hyny i nifer o'r Aelodau Gwyddelig. Atebwyd ef yn swta:

"Rhaid i ni yn y Werddon edrych ar ol ein buddianau ein hunain."

"Oh!" ebe Lloyd George, "Rwy'n gweld! Ac 'rwy'n tybio ei bod yn llawn bryd i ninau yn Nghymru a Lloegr felly edrych ar ol ein buddianau ninau a meddwl llai am fuddianau'r Werddon!"

Gwelodd y Gwyddelod fod y Cymro yn bygwth myned yn erbyn Mesur Ymreolaeth i'r Werddon, a dechreuasant feddwl eu bod wedi gwneyd camgymeriad. Ond fel mater o ffaith, ni bu Lloyd George erioed