yn bleidiwr cryf i Ymreolaeth i'r Werddon oni chaffail Cymru hefyd Ymreolaeth yr un pryd a hi.
Methai Syr Henry Campbell Bannerman fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin, gadw Lloyd George mewn trefn. Mynai'r Cymro fyned yn mlaen yn ei ffordd feiddgar ei hun—ac er dychryn i Syr Henry, dylynwyd y gwrthryfelwr gan nifer mawr o'r Aelodau Rhyddfrydol. Ai y Cymro yn mhellach hyd yn nod na hyn, gan ymosod yn gyhoeddus ar lawr y Ty ar ei Arweinydd ei hun. Yn adeg Rhyfel y Boeriaid annghytunai Lloyd George yn hollol a Syr Henry. Un tro aeth mor bell a gwneyd gwawd cyhoeddus of hono yn Nhy'r Cyffredin drwy ddweyd:
"Mae Arweinydd y Rhyddfrydwyr, Syr Henry Campbell Bannerman, wedi cael ei ddal a'i gymeryd yn garcharor gan. y gelyn (y Toriaid). Maent wedi stripio pob egwyddor Ryddfrydol oddi am dano, ac yna wedi ei adael yn noeth ar y velt (prairie Affrica) i geisio gwneyd ei ffordd yn ol at Ryddfrydiaeth goreu y medro."
Rhaid boddloni ar un engraifft arall o feiddgarwch Seneddol Lloyd George yn y cyfnod hwn. Yn Senedd dymor 1904 y cymerodd hyn le. Yr oedd y Toriaid yn dal o hyd mewn swydd, ac wedi dwyn yn mlaen "Mesur Gorfodaeth Cymru." Mesur oedd hwn i gymeryd arian dyledus at gynal Ysgolion y Cyngor, a reolid gan y trethdalwyr, a'i drosglwyddo i ysgolion yr Eglwys a reolid gan yr offeiriaid. Eglurir hyn yn mhellach mewn penod arall, ond dengys yr uchod gnewyllyn pwnc y ddadl.
Gwrthwynebai Lloyd George a'r Aelodau Cymreig y mesur yn gyndyn a phenderfynol. Yr oedd y Llyw-