Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odraeth, hwythau, lawn mor benderfynol y mynent basio'r miesar. Ceisiodd Mr. Balfour osod y cloadur pan, yn marn yr aelodau Cymreig, nid oedd haner digon o amser wedi cael ei ganiatau i ddadleu'r pwnc. Fel y gwnaeth ar achlysur tebyg o'r blaen, gwrthododd Lloyd George fyned i'r Lobby i bleidleisio. Apeliodd y Cadeirydd, Mr. Lowther, ato. Atebodd yntau:

"Nid wyf yn gweled un rheswm mewn cymeryd rhan mewn coegchwareu fel hyn er mwyn boddio Teulu Cecil. Nid yw ond gwawd i'n rhwystro fel hyn i ddadleu mater sydd a wnelo a iechyd y plant. Mae yn ofnadwy o beth!"

Yna galwyd y Llefarydd i'r gadair fel y tro o'r blaen, ac ebe Lloyd George:

"Rhaid i ni wrthdystio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y cwrs annheg a gymer y Cadeirydd ar gais y Prif Weinidog (Mr. Balfour). Barnwn ni fod y Cadeirydd wedi ein rhwystro i ddadleu cwestiynau o'r pwys mwyaf i'n hetholwyr, ac nis gallwn, yn gyson a'n dyledswydd iddynt hwy, gymeryd unrhyw ran pellach yn y gwawd-chwarae hyn yn y Senedd."

Gellir egluro mai un o deulu Cecil (Arglwydd Salisbury) yw Mr. Balfour, ac mai'r teulu hwnw oedd y mwyaf aiddgar i basio'r Mesur hwn. Mr. Asquith oedd ar y pryd yn arwain y Blaid Ryddfrydol yn y Ty. Aeth at Lloyd George i ymresymu ag ef, ond yn lle llwyddo i berswadio'r Cymro, perswadiwyd Mr. Asquith gan Lloyd George, a'r diwedd fu i'r ddau godi ar eu traed, a cherdded allan o'r Ty fraich yn mraich yn cael eu canlyn gan yr holl Blaid Ryddfrydol heb bleidleisio, gan adael felly yr holl gyfrifoldeb am basio Mesur Gormes Cymru ar y Toriaid yn unig.