Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gydag ef yn y cyfarfod, ymosododd y dorf ar y llwyfan, gan ysgubo'r cadeirydd a'i gadair, yr areithwyr a'u hareithiau ymaith fel man us o flaen y gwynt. Hyd yn nod yn ei etholaeth ei hun, yn ninas Bangor, drylliwyd ffenestri'r neuadd lle y cynaliai ei gyfarfod, ac ar ol dod allan pastynwyd ef ar brif heol y ddinas. Dengys y ffeithiau hyn rym ei argyhoeddiad a'i benderfyniad.

Saif dau o'i gyd-apostolion y pryd hwnw allan mewn goleuni cryf fel beirniaid llym i bolisi'r Weinyddiaeth bresenol yn nglyn a'r Rhyfel yn Ewrop. Peryglodd Mr. Keir Hardie ei fywyd ei hun i amddiffyn Mr. Lloyd George ar ei genadaeth heddwch yn Glasgow. Daliodd Keir Hardie yn gryf at yr un argyhoeddiadau wedi trawsnewid Lloyd George o fod yn Apostol Heddwch i fod yn Weinidog Cyfarpar Rhyfel. Am Mr. Courtney, a beryglodd ei sedd yn Nghernyw wrth dderbyn Apostol Heddwch 1900 yno, traddododd yntau araeth yn ddiweddar yn Nhy'r Arglwyddi (lle yr eistedd efe yn awr fel Arglwydd Courtney) ar gwestiwn y Rhyfel yn Ewrop, a greodd gyffro drwy'r deyrnas. Gorchwyl dyddorol, ond efallai difudd, a fyddai ceisio amgyffred pa beth a wnaethai Mr. Lloyd George yn awr, oni bae ei fod yn rhwym draed a dwylaw fel aelod blaenllaw o'r Weinyddiaeth sydd yn cario y Rhyfel yn mlaen. Ond hyn sydd sicr, gwelir gwrthgyferbyniad cryf rhwng natur ei areithiau ar Ryfel 1914-15 a'r hyn a draddododd ar Ryfel 1900. Tegwch ag ef yw nodi, er hyny, fod gwahaniaeth dirfawr rhwng achosion ac amgylchiadau'r ddau Ryfel.