Amddiffyn cenedl fach yn Affrica yn erbyn trais ei wlad ei hun a wnaeth Lloyd George yn 1900; amddiffyn cenedloedd bychain Ewrop yn erbyn trais y Kaiser a wna yn awr.
Daeth Etholiad Cyffredinol 1900—yr Etholiad Khaki fel y'i gelwid—pan oedd Lloyd George ddyfnaf yn ei anmhoblogeiddrwydd. Credai pawb, ei gyfeillion yn ogystal a'i elynion, mai ei orchfygu a gaffai yn yr etholiad hwnw. Cyfnod tywyll du ydoedd hwnw i'w gefnogwyr; gwynebau athrist a welid gan bawb o aelodau ei Bwyllgor Etholiad. Yr unig wyneb siriol, llawen, gobeithiol, yn mhob cyfarfod o'r Pwyllgor oedd gwyneb Lloyd George ei hun. Yr oedd aml un o'i hen gyfeillion wedi troi cefn arno. Dywedid fod un o'r chwech Bwrdeisdref—Nefyn—wedi ei lwyr adael.
Er y gwyddai fy mod yn annghytuno a'i bolisi ar gwestiwn y Rhyfel, daeth ataf pan edrychai pethau dduaf, gan grefu arnaf wneyd dau beth drosto ac er ei fwyn, sef (1) Ymweled yn bersonol a rhai Ymneillduwyr dylanwadol a fuont gynt yn gefnogwyr cynes ac yn aelodau o'i Bwyllgor Etholiadol, ond oeddent wedi troi eu cefn arno yn awr, ac yn myned i bleidleisio i'w erbyn; a (2) Myned gydag ef i gynal cyfarfod yn Nefyn, lle yr ofnid fod corff mawr yr etholwyr wedi troi i'w erbyn. Boddlonais wneyd y ddau ar yr amod fy mod yn rhydd i gael dweyd a fynwn yn y cyfarfod yn Nefyn.
"O'r goreu," ebe fe gyda'i wen arferol. "Dywedwch a fynoch, a beirniadwch fi faint a fynoch. Yr