Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydych chwi a minau wedi gwynebu'r gelyn ysgwydd yn ysgwydd yn rhy aml mewn llawer brwydr boeth i chwi droi cledd i'm herbyn yn awr."

Aethym fel cenadwr drosto at yr hen aelodau o'r Pwyllgor, ac er i mi fethu cael addewid pendant ganddynt i siarad drosto yn gyhoeddus, fel yr oeddwn i yn gwneyd fy hun, eto ymgymerasant i beidio ei wrthwynebu mewn na gair na phleidlais. Yn y cyfarfod yn Nefyn dywedais fy mod, fel hen ysgolfeistr, am gymeryd cyffelybiaeth dau fachgen yn ceisio am ysgoloriaeth.

"Mae deg sum yn cael eu rhoddi i'r ddau fachgen," meddwn. "Mae un o'r ddau yn gwneyd un sum yn iawn, a'r naw sum arall yn wrong. Mae'r llall yn gwneyd y sum fawr gyntaf yn wrong, ond y naw sum arall yn right. Pa un o'r ddau a ddylai gael yr ysgoloriaeth?"

"Yr olaf!" llefai'r dorf.

"Dyna chi!" meddwn inau. "Yn awr cymerwch ddeg cwestiwn politicaidd mawr y dydd yn y rhai yr ydych chwi yn credu. Mae Lloyd George yn wrong ar gwestiwn y Rhyfel, ond yn right ar y naw cwestiwn arall. Mae ei wrthwynebydd yn right ar gwestiwn y Rhyfel, ond yn wrong ar y naw arall."

Gwelodd y dorf y pwynt, a chwarddodd pawb. Eisteddais ar hyny i roi lle i Lloyd George yr hwn a ddaeth yn mlaen gyda gwen, gan ddweyd:

"Mae'n dda genyf glywed yr Inspector yn dweyd fod naw sum genyf yn right. 'Rwy'n credu fod y degfed yn right hefyd, ac mi ddwedaf wrthych pam." Ac