unrhyw enwad fwy na'i gilydd, nac i waddoli un enwad na'r holl enwadau, llawer llai ynte i osod neb o dan unrhyw anfantais fel dinesydd am broffesu, neu am wrthod proffesu, o hono unrhyw gredo grefyddol pa fodd bynag."
Yn nglyn a'r uchod dylid yma egluro fod cyfundrefn ddysg Prydain, ac yn enwedig yn Nghymru, yn dwyshau teimlad Ymneillduwyr yn erbyn yr Eglwys. Ceir dau fath o ysgolion dyddiol, sef yr ysgol enwadol, ac ysgol y trethdalwr. Cyn y flwyddyn 1902 at yr olaf yn unig y telid treth leol, ond rhoddid grants y Llywodraeth at gynal y ddwy. Y trethdalwyr, drwy eu cynrychiolwyr etholedig a reolent un (Ysgol y Bwrdd y gelwid hi y pryd hwnw, am mai Bwrdd Ysgol a'i rheolai); yr enwad a berchenogai'r adeilad, yn unig a reolai y llall. Gwrthwynebai Ymneillduwyr egwyddorol fod arian y Llywodraeth, hyny yw, arian y cyhoedd drwy'r trethi Ymerodrol, yn myned i gynal ysgol unrhyw enwad. Yn 1902, gwnaed pethau yn waeth fyth, yn gymaint ag i'r Llywodraeth Doriaidd fanteisio ar "Etholiad Khaki" 1900 (yn yr hwn y'i cynorthwywyd gan yr Ymneillduwyr a gymeradwyent y Rhyfel yn Affrica) i basio Mesur Addysg a osodai ar y trethdalwyr yn mhob sir y cyfrifoldeb a'r ddyledswydd o gynal yr ysgolion enwadol, er mai yr enwad a gaffai eto yr hawl i benodi yr athrawon, ac i reoli yr ysgol. Gan mai Ysgolion yr Eglwys oedd mwyafrif ysgolion enwadol Cymru, golygai hyny fod Ymneillduwyr, o bob enwad, heblaw talu treth at gynal ysgol y trethdalwr (a elwid yn awr yn Ysgol y Cyngor, am mai y Cyngor