Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sir a'i rheolai), yn gorfod hefyd dalu treth at gynal ysgol yr Eglwys er na chaffai'r trethdalwyr reoli yr ysgol hono, ac er na chaffai neb ond Eglwyswyr ddal swydd fel athraw ynddi.

Gwelir felly fod cwestiwn yr Eglwys a chwestiwn yr Ysgol yn Nghymru yn anwahanadwy gysylltiedig a'u gilydd. Yr hwn a wrthwynebai dalu'r dreth eglwys gynt at adgyweirio muriau Eglwys y Plwyf, a wrthwynebai yn awr, ac am yr un rheswm, dalu treth at brynu dodrefn i Ysgol yr Eglwys. Y rhai a wrthodent gynt dalu degwm at gyflog offeiriad Eglwys Loegr am bregethu egwyddorion yr eglwys hono o'r pwlpud ar y Sul, a wrthodent yn awr dalu treth at gyflog athraw Eglwys Loegr, yr hwn a ddysgai egwyddorion yr eglwys hono i'r plant yn yr Ysgol ar hyd yr wythnos. Os gwrthdystiai dyn o argyhoeddiad yn erbyn gwaith y Wladwriaeth yn penodi gwr i fywoliaeth Eglwysig am ei fod yn pregethu credo yr Eglwys hono, gwrthdystiai yr un mor gadarn yn erbyn cau Ymneillduwr allan o'r swydd o athraw mewn ysgol a gynelid yn gyfangwbl gan arian y Wladwriaeth.

Mewn gair edrychid ar waith y Wladwriaeth yn sefydlu a gwaddoli crefydd, pa un bynag ai yn yr eglwys ai yn yr ysgol, neu hyd yn nod waith y Wladwriaeth yn cydnabod unrhyw enwad crefyddol mewn modd neillduol, yn drosedd a gormes ar gydwybod y sawl na pherthynent i'r enwad hwnw. Sylwer mai nid gwrthwynebu rhoi addysg grefyddol a wnai Ymneillduwyr Cymru, ond gwrthwynebu fod y Wladwriaeth yn ymgymeryd a chyfranu yr addysg grefyddol ei hun neu