Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwy weision a delid ganddi am wneyd hyny. Nid yw Ymneillduwyr Cymru yn gwrthwynebu gwaddoli crefydd; gellir, meddant, waddoli crefydd—ond nid gan y Wladwriaeth, mewn cyffelyb fodd ag y mae yn iawn i roi addysg grefyddol i'r plant ond nid ar draul y trethi. Mor bell ag y mae gwaddoliadau cenedlaethol, hyny yw, arian a roddwyd gynt at wasanaeth y genedl, yn y cwestiwn, daliant mai at amcanion cenedlaethol, ac nid at amcanion enwadol, y dylai'r arian hyny fyned. Mor bell ag y mae a fyno'r trethi, lleol neu ymerodrol, a'r cwestiwn, hawliant y rhaid eu defnyddio at amcanion y cyhoedd yn gyffredinol, ac o dan reolaeth gyflawn a dilyffethair y cyhoedd drwy eu cynrychiolwyr etholedig. Mor bell ag y mae a fyno penodi i swydd gan, neu o dan, y Wladwriaeth yn myned, daliant na ddylai'r ffaith fod dyn yn proffesu neu yn gwrthod proffesu, unrhyw gredo crefyddol o gwbl fod yn rheswm dros benodi, na gwrthod penodi, neb i'r cyfryw swydd.

Dyna yn syml grynodeb o ddaliadau Ymneillduwyr Cymru ar y cwestiwn o ryddid cydwybod. Gwelir eu bod yn seiliedig ar yr egwyddorion mawr hanfodol dros, ac o herwydd, y rhai y gadawodd y Tadau Pereriniol wlad eu genedigaeth yn agos i dri chan mlynedd yn ol, ac yr hwyliasant yn y Mayflower i draethau Lloegr Newydd. O'r planigyn egwan hwnw y tyfodd derwen fawr, gadarn, Unol Dalaethau yr America, o dan gangenau preiffion, llydan, yr hon y blagura ac y blodeua rhyddid cydwybod yn ddirwystr. I fynu Siarter cydwybod i Ymneillduwyr Cymru yr