Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etholwyd Lloyd George i Senedd Prydain. Dros y siarter hwnw yr ymladdodd mor egniol yn Nhy'r Cyffredin ar hyd y blynyddoedd. Ni flinai byth ddwyn ar gof i'r Senedd mai lleiafrif bychan iawn o drigolion Cymru oedd deiliaid Eglwys Loegr yno, a bod urddasolion yr Eglwys hono nid yn unig heb feddu cydymdeimlad a dyheadau y genedl, ond yn gwneyd pob peth a fedrent i lethu y dyheadau hyny.

Pan ddadleuid y collai'r genedl ei chrefydd pe dadsefydlid yr Eglwys, atebai:

"Ni chyll y genedl byth mo'i chrefydd tra y ceidw ei pharch at bethau ysbrydol; ac os cyll cenedl ei dyddordeb mewn crefydd, ni bydd cadw cysylltiad swyddogol a chrefydd yn y ffurf o Eglwys Sefydledig trwy rym cyfraith, yn ddim amgen na rhagrith ffiaidd na thwyllir na Duw na dyn ganddo."

Siaradai yr un mor ddifloesgni ar gwestiwn y Gwaddoliadau. Pan gyhuddid ef, a Dadwaddolwyr eraill, eu bod yn "ysbeilio Duw" drwy gymeryd y gwaddoliadau oddi ar yr Eglwys, atebai, gan gyfeirio at y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr yn nyddiau Harri VIII., pan sefydlwyd Eglwys Loegr gyntaf ar seiliau hen Eglwys Rufain:

"Ysbeiliasant hwy (Eglwys Loegr) yr Eglwys Babaidd; ysbeiliasant y mynachlogydd; ysbeiliasant yr allorau; ysbeiliasant yr elusendai; ysbeiliasant y tlodion; ysbeiliasant y meirw. Yna deuant yma, pan fo'm ni yn ceisio cael rhan o'r ysbail hwn yn ol i'r tlodion at wasanaeth y rhai y'i rhoddwyd ar y cychwyn, a beiddiant ein cyhuddo ni o ysbeilio Duw, tra mae eu dwylaw hwynt eu hunain yn dyferu gan frasder cysegr—ysbeiliad!"

Er mwyn sicrhau Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru y gwrthryfelodd yn erbyn gweinyddiaeth Gladstone a Rosebery, ac y cododd ei sawdl yn erbyn